Rhisierdyn
Oddi ar Wicipedia
Un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14eg ganrif oedd Rhisierdyn (bu farw yn y 1410au efallai). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Ynys Môn.
Ni wyddys dim o gwbl bron am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun a cherdd ymddiddan iddo gan ei gydfardd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed. Noda William Salesbury, mewn rhestr o feirdd a luniwyd tua 1574, fod Rhisierdyn yn fardd o Fôn. Er nad oes modd cadarnhau hynny, mae'r ffaith fod nifer uchel o'i noddwyr naill ai'n byw ar yr ynys neu'n aelodau o deuluoedd o'r ynys yn tueddu i ategu'r awgrym, ond canodd y bardd i sawl noddwr arall yng ngogledd Gwynedd hefyd.
Pedair awdl ac un cywydd o waith y bardd sydd ar glawr. Canodd i rai o bobl pwysicaf ei gyfnod yng ngogledd-orllewin Cymru, sef Goronwy Fychan ap Tudur o Benmynydd (Môn) a'i wraig Angharad, Hywel ap Gruffudd o Eifionydd, Hwlcyn ap Hywel o Brysaeddfed (hefyd ym Môn), a Ieuan ap Rhys, Abad Aberconwy. Ei awdl i Ieuan ap Rhys yw'r cynharaf sydd ar glawr o gyfres ddiddorol o gerddi i abadau Aberconwy. Ymddengys mai Tuduriaid Môn, ac yn enwedig Goronwy ap Tudur, oedd prif gynheiliaid y bardd.
Canu mawl traddodiadol, amhersonol braidd ond o safon uchel, yw trwch a sylwedd gwaith Rhisierdyn. Er iddo ganu yn Oes y Cywyddwyr, glynu wrth arddull y Gogynfeirdd a wnaeth y bardd, gan bentyrru ansoddeiriau a thynnu ar eirfa hynafol. Ymhlith ei hoff fesurau y mae'r rhupunt a'r englyn unodl union.
Cedwir ei waith yn Llyfr Coch Hergest, yn llaw Hywel Fychan.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Rhisierdyn', yn Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.