Mab Clochyddyn
Oddi ar Wicipedia
Bardd Cymraeg sy'n perthyn i do cyntaf Beirdd yr Uchelwyr oedd Mab Clochyddyn (fl. hanner cyntaf y 14eg ganrif). Gellir derbyn yn weddol hyderus ei fod yn frodor o Fôn.
Ni wyddom fawr dim amdano ond mae ei waith yn ei gysylltu ag Ynys Môn (gweler isod). Enw barddol yw 'Mab Clochyddyn'. Amlwg fod 'Clochyddyn' (clochydd bychan neu druenus) yn cyfeirio at dad y bardd. Ceir cofnod o un Dafydd ap Clochyddyn yn byw yn Nhalybolion yn 1347, ond er bod y bardd wedi canu i ferch o'r cwmwd hwnnw (gweler isod) ni ellir bod yn sicr mai cyfeiriad ato ydyw.
Mae'r ddwy gerdd o'i waith sydd yn goroesi yn ei gysylltu ag Ynys Môn. Marwnad i Wenhwyfar, merch o Edeirnion a ddaeth yn wraig i uchelwr o blwyf Llanfechell, cwmwd Talybolion, ac a gladdwyd yn Llan-faes, yw'r cyntaf a'r pwysicaf o'r ddau destun. Canodd Gronw Gyriog farwnad iddi hefyd.
Dau englyn dychan, rhan o gerdd hirach efallai, i ryw "ffalsiwr" (bardd o radd isel, un o'r Glêr efallai) yn bygwth dial arno pe ddychwelai i Fôn yw'r ail destun.
Cedwir testunau cynharaf y ddwy gerdd yn Llyfr Coch Hergest.
[golygu] Llyfryddiaeth
Golygir gwaith y bardd gan W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen yn,
- Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.