Goa
Oddi ar Wicipedia

Lleoliad Goa yn India
Mae Goa yn dalaith arfordirol yng ngorllewin India. Mae hi'n ffinio â Maharashtra yn y gogledd a Karnataka yn y dwyrain. Ei phrifddinas yw Panaji.
Nid yw'n dalaith fawr, gydag arwynebedd tir o ddim ond 3659km². Mae ganddi boblogaeth o tua 1.4 miliwn (1999).
Y prif ieithoedd yw Konkaneg a Marathi ac mae rhai pobl yn siarad Saesneg a Phortiwgaleg yn ogystal.
Mae Goa yn ganolfan boblogaidd gan dwristiaid o'r Gorllewin ac mae'r GNP yn uchel yn nhermau India.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jammu a Kashmir • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Tiriogaeth Genedlaethol Delhi • Daman a Diu • Lakshadweep • Pondicherry |