Gujarat
Oddi ar Wicipedia
Mae Gujarāt (Gujarātī: ગુજરાત) yn dalaith yng ngorllewin India. Mae'n ffinio ar Pakistan yn y gorllewin, Rajasthan yn y gogledd-ddwyrain, Madhya Pradesh yn y dwyrain a Maharashtra a Diu, Daman a Dadra a Nagar Haveli yn y de.
Gujarat yw'r fwyaf diwydiannol o daleithiau India, ac mae'n gyfrifol am 19.8% o holl gynnyrch diwydiannol y wlad. Mae incwm y pen yn 2.47 gwaith y cyfartaledd i India gyfan. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 50,596,992.
Y brifddinas yw Gandhinagar, dinas wedi ei chynllunio'n bwrpasol ac wedi ei henwi ar ôl yr enwocaf o feibion Gujarat, Mahatma Gandhi. Y ddinas fwyaf yn y dalaith yw Ahmedabad. Iaith swyddogol y dalaith yw Gujarati, ac mae'r mwyafrif o'r trigolion yn ddilynwyr Hindwaeth.
Yn Ionawr 2001 effeithiwyd ar Gujarat gan ddaeargryn mawr, a laddodd tua 10,000 o bobl.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jammu a Kashmir • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Tiriogaeth Genedlaethol Delhi • Daman a Diu • Lakshadweep • Pondicherry |