Jammu a Kashmir
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma yn ymdrin â thalaith Jammu a Kashmir yn India. Am ardal hanesyddol Kashmir, gweler Kashmir (ardal).
Mae Jammu a Kashmir (Hindi: जम्मू और कश्मीर, jammū aur kaśmīr) yn dalaith yng ngogledd India. Mae'n rhan o ardal fwy sy'n achos anghydfod rhwng India, Pacistan a China.
Mae gan dalaith Jammu a Kashmir arwynebedd o 101,387 km² a phoblogaeth o 10,069,917 (2001). Y brifddinas yn yr haf yw Srinagar ac yn y gaeaf Jammu. Mae'n ffinio a thaleithiau Himachal Pradesh a Punjab, ac a thalaith Punjab ym Mhacistan, ag Azad Kashmir ym Mhacistan ac a Tibet. Ffurfiwyd y dalaith o dair ardal wahahanol. Yn y gorllewin mae Kashmir, gyda Srinagar fel prifddinas, a'r mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn ddilynwyr Islam. Yn y dwyrain mae Ladakh, lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn dilyn Bwdhaeth Tibet. Yn y de mae Jammu, , lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ddilynwyr Hindwaeth.
Y dinasoedd mwyaf yw Srinagar gyda phoblogaeth o 894,940 a Jammu gyda phoblogaeth o 378,431.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jammu a Kashmir • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Tiriogaeth Genedlaethol Delhi • Daman a Diu • Lakshadweep • Pondicherry |