Cookie Policy Terms and Conditions Hanes Cernyw - Wicipedia

Hanes Cernyw

Oddi ar Wicipedia

Gweddillion y castell Normanaidd yn Tintagel.
Gweddillion y castell Normanaidd yn Tintagel.

Mae Hanes Cernyw yn dechrau gyda chysylltiadau rhwng Cernyw a marsiandïwyr o wledydd o gwmpas Môr y Canoldir oedd yn cael eu denu yma gan y mwynfeydd tun. Roedd tun yn cael ei gynhyrchu yng Nghernyw o Oes yr Efydd; roedd y metel yn arbennig o bwysig gan ei fod yn cael ei gymysgu a chopr i gynhyrchu efydd. Daw'r cofnod hanesyddol cyntaf am Gernyw gan yr hanesydd Groegaidd Diodorus Siculus (c.90 CC–c.30 CC);

Gelwid Cernyw yn Cornubia gan y Rhufeiniaid, ond nid oes llawer o olion Rhufeinig wedi eu darganfod yma. Erbyn y cyfnod yma roedd tun i'w gael yn haws o Benrhyn Iberia, felly roedd pwysigrwydd economaidd yr ardal yn llai. Wedi i'r Rhufeiniaid adael ymddengys fod Cernyw yn rhan o deyrnas Frythonig Dumnonia neu Dyfnaint. Ymddangosodd teyrnas Cernyw tua'r 6ed ganrif. Hon oedd Oes y Saint, a daeth nifer o seintiau Cernyw i amlygrwydd, yn enwedig Sant Piran.

Erbyn yr 8fed ganrif roedd Dyfnaint wedi ei goresgyn gan yr Eingl-Sacsoniaid. Enillodd y Brythoniaid frwydr yn "Hehil" yn 721, ond yn 838 gorchfygwyd cynghrarir o Frythoniaid a Daniaid gan Egbert, brenin Wessex. Cofnodwyd yn yr Annales Cambriae am 875 fod Dungarth, brenin Cerniu ("id est Cornubiae") wedi boddi. Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex.

Erbyn 1066 ystyrid Cernyw yn rhan o Deyrnas Lloegr, ond roedd ganddi rywfaint o annibynniaeth yn parhau fel is-deyrnas. Diorseddwyd brenin olaf Cernyw, Cadoc, gan y Normaniaid. Datblygodd llenyddiaeth boblogaidd Gernyweg yn y 14eg ganrif. Cyn cyfnod y Tuduriaid byddid yn aml yn nodi bod cyfreithiau'n weithredol in Anglia et Cornubia; ond o gyfnod y Tuduriaid ymlaen cymerwyd fod "Anglia" yn cynnwys Cernyw.

Bu gwrthryfel yn 1497, gan ddechrau ymhlith y mwynwyr tun, oedd yn gwrthwynebu cynnydd yn y trethi. Gorymdeithiodd y gwrthryfelwyr tua Llundain, ond gorchfygwyd hwy ym mrwydr Pont Deptford. Bu gwrthryfel arall yn erbyn y Llyfr Gweddi Protestannaidd yn 1549. Heblaw fod mwyafrif y Cernywiaid yn Gatholigion ar y pryd, roedd y Llyfr Gweddi newydd yn Saesneg, iaith nad oedd mwyafrif y Cernywiaid yn ei deall. Dywedir i ugain y cant o boblogaeth Cernyw gael ei lladd yn y gwrthryfel yma, un o'r ffactorau a arweiniodd at ddirywiad yn sefyllfa'r iaith. Bu farw Dolly Pentreath, siaradwr olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn 1777, ond mae tystiolaeth i siaradwyr eraill fyw tan ddechrau'r 19eg ganrif.

Yn 1755 tarawyd arfordir Cernyw gan tsunami a achoswyd gan ddaeargryn mawr Lisbon. Parhaodd mwynfeydd tun Cernyw yn bwysif yn y 18fed ganrif, ond erbyn ail hanner y 19eg ganrif roedd y tun yn dechrau darfod, ac ymfudodd llawer o Gernywiaid. Tua diwedd y 18fed ganrif tyfodd Methodistiaeth yn gyflym yng Nghernyw yn dilyn ymweliadau gan John a Charles Wesley.

Ffurfiwyd plaid genedlaethol Mebyon Kernow yn 1951 i geisio ennill hunanlywodraeth. Nid yw'r blaid wedi llwyddo i ennill sedd yn Nhy'r Cyffredin hyd yma.

Blodau Grug Hanes y Gwledydd Celtaidd Sbiral triphlyg

Hanes yr Alban | Hanes Cernyw | Hanes Cymru | Hanes Iwerddon | Hanes Llydaw | Hanes Manaw

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid

Ieithoedd eraill
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu