Marchwiail
Oddi ar Wicipedia
Pentref ym mwrdeistref sirol Wrecsam, tua dwy filltir a hanner i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam ei hun, yw Marchwiail (llurguniad Saesneg: Marchwiel).
Gorwedd y pentref ym mhlwyf Marchwiail ym Maelor Gymraeg, ym Maelor, y rhan o ogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymwthio i mewn i Loegr, ar yr A525 hanner ffordd rhwng Wrecsam a Bangor Is Coed i'r de-ddwyrain.
Ystyr marchwiail yw "brigau mawr, gwiail praff" neu "goed ifainc" (unigol: marchwialen).[1] Efallai bod yr ardal yn nodwedig o goediog ar un adeg.
Cysegrir yr eglwys i'r Santes Marchell ac i Sant Deiniol. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, i Ddeiniol y cyflwynwyd yr eglwys ar y dechrau. Cafodd adeilad yr eglwys ei ailgodi o'r newydd bron yn y 18fed ganrif. Mae'n adnabyddus am ffenestr wydr-liw a adnabyddir fel "ffenestr Yorke".[2]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 3, tud. 2359.
- ↑ Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1961), t. 118.
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam |