Pentre Bychan
Oddi ar Wicipedia
Pentref ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Pentre Bychan. Saif ar y ffordd B5605 rhwng Rhostyllen a Johnstown.
Ar un adeg roedd ystad Pentre Bychan o bwysigrwydd mawr yn yr ardal. Mae'r plasdy yn dyddio o'r 16eg ganrif ac yn wreiddiol perthynai i deulu Tegin. Prynwyd yr ystad gan Hugh Meredith yn 1620, a bu'r teulu Meredith yno hyd 1802. Adeiladwyd plasdy newydd yn 1823. Tynnwyd yr adeilad i lawr yn 1963, ac adeiladwyd Amlosgfa Wrecsam ar y safle. Mae rhan o Glawdd Offa gerllaw'r pentref.
[golygu] Pobl enwog o Bentre Bychan
- Llŷr Williams, pianydd clasurol
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam |