Brymbo
Oddi ar Wicipedia
Pentref ar gyrion Wrecsam a ward o'r dref honno yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Brymbo. Bu Melin Dur Brymbo yn gyflogwr pwysig yn yr ardal tan iddo gau yn ddiweddar.
Ceir dwy eglwys yn y pentref; Eglwys Fair (1872) a'r Tabernacl Tun (Methodistiaid Saesneg).
[golygu] Yr enw
Mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn ei lyfr Yn ei Elfen (Gwasg Garreg Gwalch, 1992, t. 29) yn dangos mai llygriad o'r enw Bryn-baw ydyw Brymbo. Does neb yn gwybod pam y cafodd yr enw.
[golygu] Dyn Brymbo
Yn 1958 gwnaed darganfyddiad archaeolegol pwysig gan weithwyr yn tyllu clawdd, sef gweddillion dyn o Oes yr Efydd a gafodd ei lysenwi "Dyn Brymbo". Tybir iddo farw tua 1600 C.C..
[golygu] Dolenni allanol
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam |