Y Waun
Oddi ar Wicipedia
Y Waun Wrecsam |
|
- Am faestref Caerdydd, gweler Y Waun, Caerdydd
Mae'r Waun (Saesneg: Chirk) yn dref ym mwrdeistref sirol Wrecsam, ar y ffin â Lloegr.
[golygu] Hanes
Roedd yr hen blwyf yn cynnwys y trefgorddau Y Waun, Bryncunallt, Gwernospin, Halchdyn a Phenyclawdd.
Roedd Y Waun yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974, yng Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ac ym mwrdeistref sirol Wrecsam ers 1996.
Mae priffordd yr A5, un o ffyrdd Thomas Telford, yn mynd trwy'r Waun. Hefyd, mae Traphont ddŵr y Waun yn cario Camlas Undeb Swydd Amwythig dros Afon Ceiriog.
Cyrhaeddodd y rheilffordd y dref yn 1884, yn cysylltu'r Waun ag Amwythig a Chaer. Fe adeiladwyd y bont rheilffordd yn uwch na'r draphont.
Tan y 1960au, roedd Y Waun yn dref lofaol gyda'r mwyafrif o'r pentrefwyr yn gweithio mewn pyllau glo lleol fel Parc Du, Bryncunallt ac Ifton (dros y ffin yn Llanfarthin).
[golygu] Trigolion Enwog
Billy Meredith - Pêldroediwr Dinas Manceinion, Manceinion Unedig a Chymru.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam |