Glyn Ceiriog
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Ceiriog (gwahaniaethu).
Hen bentref chwareli llechi yw Glyn Ceiriog (Llansantffraid Glyn Ceiriog yn llawn), yn Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru. Gorweddai ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, pum milltir (8km) i'r gorllewin o'r Waun a chwe milltir (6km) i'r de o Llangollen (yn ward Dyffryn Ceiriog, Etholaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, De Clwyd ac Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig, De Clwyd). Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Ffordd Tramiau Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn hwyrach i gyfnewid rheiliau gyda llinell y Great Western Railway o Gaer i Amwythig.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth a gweinyddiaeth
[golygu] Hanes gweinyddol
Yn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel plwyf a phlwyf gweinyddol Llansantffraid Glyn Ceiriog. O ganol y 16eg ganrif hyd 1974, llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol Sir Ddinbych, a rannwyd yn sawl ardal wledig. Rhwng 1895 a 1935, roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gyda Ardal Wledig Llansilin yn 1935 i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn ran o Ardal Wledig Ceiriog o 1935 hyd 1974.
Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyndŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn ran o awdurdod unedol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y mae hyd heddiw.
[golygu] Cynrychiolaeth wleidyddol
Gweinyddir Glyn Ceiriog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a drodd yn awdurdod unedol yn 1998. Mae Glyn Ceiriog yn ran o ward Dyffryn Ceiriog, ac mae ganddi gynghorwr annibynol.
O 1999, cynrychiolwyd Glyn Ceiriog yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Karen Sinclair, Aelod Cynulliad y Blaid Lafur ar gyfer De Clwyd
Ers 1997, cynrychiolir Glyn Ceiriog yn Senedd y Deyrnas Unedig gan Martyn Jones, Aelod Seneddol Llafur ar gyfer De Clwyd.
[golygu] Daearyddiaeth/Daeareg
Lleolir Glyn Ceiriog yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn a grewyd gan afon Ceiriog. Yn ddaearegol, mae gan y dyffryn strata Ordoficiaidd a Silwriaidd. Mae'r pridd yn fân ac yn fawnog.
[golygu] Enwogion
Mae sawl llenor wedi byw yn neu'n agos i Lyn Ceiriog yn y gorffenol. Mae cysylltiadau rhwng y bardd Guto'r Glyn (1435 - 1493), a Glyn Ceiriog. Roedd Huw Morus (Eos Ceiriog) (1622 - 1709), wedi ei eni ac yn byw ger Glyn Ceiriog. Roedd y ieithydd a bardd buddugol yr Eisteddfod, y Parchedig Robert Elis (Cynddelw) (1812 - 1875), yn weinidog yng Nghapel Annibynol Bedyddwyr Cymru yng Nglyn Ceiriog o 1838 hyd 1840. Treuliodd y nofelydd Islwyn Ffowc Elis y rhan fwyaf o'i blentyndod ar fferm ger Glyn Ceiriog, er y ganed ef yn Wrecsam.
[golygu] Dolenni Allanol
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam |