Ponciau
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn ward Rhosllannerchrugog ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Ponciau. Tyfodd y pentref o gwmpas y diwydiant glo, gyda rhywfaint o gynhyrchu haearn yma hefyd. Ceir yma ysgol gynradd a swyddfa'r post, ynghyd a nifer o gapeli. Saif rhan o Glawdd Offa gerllaw, ac mae Afon Clywedog yn ffurfio rhan o ffîn y ward. Yn 2001 roedd 37% o'r boblogaeth yn medru Cymraeg.
Mae Parc y Ponciau yn cynnwys trac BMX a chyfleusterau ar gyfer peldroed, bowlio a thennis. Ceir Cerrig yr Orsedd yma o Eisteddfod Genedlaethol 1961, a gynhaliwyd yn Rhosllannerchrugog. Yn nechrau 2007 cyhoeddwyd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r grŵp cymunedol Cyfeillion Parc y Ponciau yn cael grant o £504,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer adfer y parc.
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Acrefair | Bangor-is-y-coed | Y Bers | Brymbo | Bwlchgwyn | Cefn Mawr | Coedpoeth | Erbistog | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Gwaunyterfyn | Gwersyllt | Hanmer | Holt | Johnstown | Llai | Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Llannerch Banna | Marchwiail | Marford | Y Mwynglawdd | Yr Orsedd | Owrtyn | Pentre Bychan | Penycae | Ponciau | Pontfadog | Rhiwabon | Rhosddu | Rhosllannerchrugog | Rhostyllen | Tregeiriog | Y Waun | Wrecsam |