Ewro
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Arian swyddogol mewn 12 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (a rhai gwledydd eraill) yw'r ewro (€ neu EUR). Mae Banc Canolog Ewrop yn Frankfurt, Yr Almaen, yn rheoli'r ewro (gweler isod a hefyd Ardal Ewro).
Mae'r ewro yn arian swyddogol ers 1999, ond am dair blynedd doedd hi ond yn bosib gwneud taliadau heb arian (er enghraifft trosglwyddiadau banc) mewn ewros. Cyflwynwyd darnau arian a phapurau ewro yn lle arian cenedlaethol y gwledydd yn ardaloedd yr ewro (yr Ewro-floc) ar 1 Ionawr, 2002. Rhennir un ewro yn gan (100) ceiniog neu sent.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y cyfnod trawsnewidiol
Mae Cytundeb Maastricht yn cadarnháu cyflwyniad yr ewro ac yn gosod amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn i'r gwledydd eraill gyflwyno'r ewro. Ar 13 Rhagfyr 1996 cafodd y Cytundeb Sefydlogrwydd a Thyfiant ei arwyddo gan weinidogion cyllid gwledydd yr UE. Ar 31 Rhagfyr 1998 cytunwyd ar gyfradd cyfnewid pob arian cenedlaethol.
Ers 1 Ionawr 1999 gellir trosglwyddo arian a gwneud pob math o daliadau mewn ewros (yng Ngwlad Groeg ers 1 Ionawr 2001). Roedd hi'n bosib cael cyfrif banc mewn ewros o 1999 ymlaen hefyd, ond doedd hynny ddim yn orfodol. Beth bynnag, ni thalwyd trethi awdurdodau cyhoeddus a rhan-ddaliadau y farchnad stoc ond mewn ewros.
Cyflwynwyd y ceiniogau a phapurau ewro ar 1 Ionawr 2002 ac yn ystod y cyfnod hwnnw (hyd at Chwefror 2002 ym mwyafrif y gwledydd) roedd hi'n bosib defnyddio'r arian sengl a'r arian cenedlaethol ochr yn ochr. Heddiw, nid yw'r hen arian cenedlaethol yn arian cyfnewid yng ngwledydd yr ardal ewro. Sut bynnag, gellir cyfnewid darnau a phapurau arian cenedlaethol mewn banc mewn rhai gwledydd, ond mae'r rheolau am hynny yn amrywio o wlad i'w gilydd.
[golygu] Ardal yr ewro
Mae'r ewro yn arian swyddogol yn y gwledydd a ganlyn (i daliadau dim arian/darnau a phapur ewro):
- Yr Almaen (1999/2002)
- Awstria (1999/2002)
- Gwlad Belg (1999/2002)
- Y Ffindir (1999/2002)
- Ffrainc (1999/2002)
- Gwlad Groeg (2001/2002)
- Yr Iseldiroedd (1999/2002)
- Iwerddon (1999/2002)
- Yr Eidal (1999/2002)
- Lwcsembwrg (1999/2002)
- Portiwgal (1999/2002)
- Sbaen (1999/2002)
- Slofenia (2007)
Mae gan nifer o wledydd undeb ariannol gyda gwledydd sy'n aelodau o'r Undeb Ariannol Ewropeaidd a felly mae'r ewro yn arian swyddogol yn y rheini nawr hefyd:
- Monaco
- San Marino
- Dinas y Fatican
Mae nifer o wledydd sy'n bwriadu defnyddio'r ewro heb benderfynu ymuno â'r Undeb Ewropeaidd:
- Mae Andorra yn bwriadu cyflwyno ei darnau ewro ei hun, ond ni chafwyd caniatâd gan yr Undeb Ewropeaidd hyd hyn.
- Kosofo
- Montenegro
Beth bynnag mae nifer o aelod-wladwriaethau'r UE wedi penderfynu peidio cyflwyno'r Ewro ac yn cadw eu harian eu hunain:
- Denmarc
- Sweden - roedd yn gwrthod am yr ail dro ymuno â'r Undeb Ariannol Ewropeaidd ar 14 Medi, 2003
- Y Deyrnas Unedig
Mae rhaid i'r aelod-wladwriaethau sydd wedi ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai, 2004 gyflawni nifer o amodau cyn medru cyflwyno'r ewro. Er enghraifft mae'n rhaid fod yn aelod o'r Undeb Ariannol ac yn cael cyfradd cyfnewid cyson rhwng yr Ewro a'u harian cenedlaethol am ddwy flynedd. O ganlyniad mae'n debyg na fydd y gwledydd hyn yn defnyddio'r ewro cyn 2007 o leiaf. Y gwledydd sydd newydd ymuno â'r UE yw:
[golygu] Canlyniadau economaidd
Disgwylir bydd yr ewro yn cryfhau'r fasnach rhwng yr ardaloedd ewro a bod gwahaniaeth rhwng prisiau pob gwlad yn lleihau achos ei bod hi'n bosib gwerthu cynhyrchion ledled Ewrop ar brisiau tryloyw. Disgwylir hefyd bydd hynny'n cryfhau cystadleuaeth, yn lleihau chwyddiant ac yn cynnyddu safon byw trigolion yr UE. Fodd bynnag, roedd nifer o arbenigwyr yn bryderus am gyflwyno arian sengl mewn ardal mor eang ac amrywiol ac yn rhybuddio bydd y polisi ariannol yn anodd i'w wneud.
Byddai pethau yn newid yn ddramatig pe taw'r pris olew mewn Ewro. Mae'r ardal yr ewro yn mewnforio mwy o olew na'r Unol Daleithiau ac felly mae mwy o ewros nag o ddoleri yn llifo i wledydd OPEC er fod prisiau olew mewn doleri fel arfer. Mae gwledydd OPEC yn dadlau ynglŷn â chyflwyno pris olew yn yr ewro.
[golygu] Cyfraddau cyfnewid
Cadarnheuwyd cyfraddau cyfnewid yr arian cenedlaethol mewn perthynas â'r ewro yn ngwledydd Ardal yr Ewro ar 31 Rhagfyr 1998 ar sylfaen cyfradd cyfnewid yr ECU. Cyflwynwyd yr ewro yn ôl y cyfraddau canlynol:
- 1.95583 deutsche Mark yn yr Almaen
- 13.7603 Schilling yn Awstria
- 40.3399 franc yng Ngwlad Belg
- 1936.27 lira yn yr Eidal
- 5.94573 markka yn y Ffindir
- 6.55957 franc yn Ffrainc
- 40.3399 franc yn Lwcsembwrg
- 2.20371 gulden (guilder) yn Yr Iseldiroedd
- 0.787564 punt yn Iwerddon
- 200.482 escudo ym Mhortiwgal
- 166.386 peseta yn Sbaen
Sefydlwyd cyfradd ar gyfer y drachma Groeg ar 19 Mehefin 2000 fel 340.750 drachma i'r ewro. Cyflwynwyd yr ewro yng Nglwad Groeg ar 1 Ionawr 2001. Ymunodd Slofenia ar 1 Ionawr 2007 gyda chyfradd o 239.640 tolar i'r ewro. Bwriedid i Lithwania ymuno â'r ewro ar yr un dyddiad, ond gorfodwyd gohirio cyflwyniad yr ewro tan 2008 neu 2009 gan i gyfradd chwyddiant Lithwania aros yn rhy uchel. Bwriedir i Gyprus, Estonia, Latfia a Malta ymuno â'r ewro yn [[2008].
[golygu] Symbol
Cynlluniwyd symbol yr € gan Arthur Eisenmenger. Mae'n E fawr a chron gyda dwy linell gyfochrog yn y canol. Mae'n debyg i'r llythyren Roeg 'espilon' (ε) a llythyren gyntaf y gair 'Ewrop'. Mae'r ddwy linell ganolog yn cynrycholi sefydlogrwydd yr arian a'r economi.