Charon (lloeren)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Un o dair lloeren y blaned gorrach Plwton, darganfuwyd yn 1978.
Cylchdro: 19,640 km o Blwton
Tryfesur: 1172 km
Cynhwysedd: 1.90e21 kg
Mae Charon wedi ei henwi ar ôl Charon y badwr sy'n cludo'r meirw dros afon Acheron i mewn i'r is-fyd ym mytholeg Groeg.
Cafodd Charon ei darganfod yn 1978 gan Jim Christy. Mae ei chyfansoddiad hefyd yn ddirgel, ond mae ei chynhwysedd isel (rhyw 2gm/cm3) yn awgrymu ei bod yn debyg i loerau rhewllyd Sadwrn (er enghraifft Rhea).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.