Claudius
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus (1 Awst 10 CC - 13 Hydref 54) (Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus cyn dod yn ymerawdwr) oedd pederydd ymerawdwr Rhufain. Bu'n ymeradwr o 24 Ionawr 41 hyd ei farwolaeth. Ganed ef yn Lugdunum (dinas Lyon yn Ffrainc heddiw), yn fab i Drusus ac Antonia Minor. Ef oedd yr ymeradwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r Eidal.
Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw Augustus yn 14 gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, Tiberius am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth Caligula yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar 24 Ionawr 41, llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.
Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia a and Judea yn ogystal a choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda pedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.
Bu farw Claudius ar 13 Hydref 54. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig Agrippina ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan Nero, mab Agrippina o briodas flaenorol.
O'i flaen : Caligula |
Ymerodron Rhufain Claudius |
Olynydd : Nero |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.