Kde domov můj?
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Kde domov můj? (Ble mae fy nghartref?) yw anthem genedlaethol y Weriniaeth Tsiec, a cyn 1993 roedd yr hanner cyntaf yn anthem genedlaethol yr hen Tsiecoslofacia.
Cyfansoddodd Frantisek Skroup a'r dramodydd Josef Kajetan Tyl y gân fel rhan o'r gomedi Fidlovačka aneb žádný hněv a žádná rvačka (Fidlovačka, neu Dim dicter a dim stwff garw), a berfformiwyd yn y Stavovské Divadlo (Theatr Ystadau) yn Prague ar 21 Rhagfyr 1833.
[golygu] Geiriau
Kde domov můj,
kde domov můj?
Voda hučí po lučinách,
bory šumí po skalinách,
v sadě skví se jara květ,
zemský ráj to na pohled!
A to je ta krásná země,
země česká, domov můj,
země česká, domov můj!
[golygu] Cyfieithiad answyddogol i'r Gymraeg
Ble mae fy nghartref?
Ble mae fy nghartref?
Mae dwr yn byrlymu dros y caeau
Mae coedwigau pinwydd yn sibrwd dros y creigiau
Mae'r ardd yn ogoneddus â blodau'r gwanwyn
Mae'n Baradwys ar y Ddaear i'w weld!
A dyma'r wlad hardd,
Y wlad Tsiec, fy nghartref,
Y wlad Tsiec, fy nghartref!