Y Môr Canoldir
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Môr rhwng Ewrop, Asia ac Affrica yw'r Môr Canoldir (2.5 miliwn km²). Cafodd ei enw o'r Lladin mediterraneus (medius, 'canol' + terra, 'tir'), ond roedd pobl Rhufain yn ei alw yn Mare Nostrum, sef 'ein môr ni'.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Mae Culfor Gibraltar yn cysylltu'r Môr Canoldir â'r Môr Iwerydd yn y gorllewin ac mae Môr Marmara, y Dardanelles a'r Bosphorus yn cysylltu fe a'r Môr Du yn y dwyrain. Mae Môr Marmara yn ran o'r Môr Canoldir ym marn rhai bobl. Yn y de-ddwyrain mae Camlas Suez yn cysylltu'r Môr Canoldir a'r Môr Coch.
[golygu] Hinsawdd
Mae hinsawdd arbennig o amgylch y Môr Canoldir.
[golygu] Ynysoedd
Mae ynysoedd mawr y Môr Canoldir yn cynnwys:
- Cyprus, Crete a Rhodes yn y dwyrain
- Sardinia, Corsica, Sicily, Malta a Djerba yn y canolbarth
- Ibiza, Majorca a Minorca (yr Ynysoedd Balearig) yn y gorllewin
[golygu] Gwledydd
Y gwledydd sydd ar lannau y Môr Canoldir yw:
- Ewrop (o'r gorllewin i'r dwyrain): Sbaen, Ffrainc, Monaco, yr Eidal, Slofenia, Croatia, Bosnia a Hertsegofina, Montenegro, Albania, Gwlad Groeg a Thwrci
- Asia (o'r gogledd i'r de): Twrci, Syria, Libanus, Israel a Phalesteina
- Affrica (o'r dwyrain i'r gorllewin): yr Aifft, Libia, Tunisia, Algeria a Moroco
- Ynysoedd sydd yn wledydd yw Cyprus a Malta. Lleolir Gweriniaeth Twrcaidd Gogledd Cyprus yng Ngogledd ynys Cyprus, ond dim ond Twrci sy'n cydnabod hon yn wlad.
Gwledydd y Môr Canoldir | |
---|---|
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci |