Palesteina
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwlad a grewyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o dan lywodraeth Prydain wrth i hen Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Dwyrain Canol ddarnio. Er na fu iddi hanes hir fel uned wleidyddol fodern, llwyddwyd yn sgîl sefydlu gwladwriaeth Iddewig Israel ar yr un diriogaeth, i lunio hunaniaeth Balesteinaidd genedlaethol, a gâi ei mynegi'n bennaf trwy Mudiad Rhyddid Palesteina.
Bellach mae gan y Palestiniaid wladwriaeth yn Gaza, rhwng Israel a'r Aifft ar lan y Môr Canoldir, a reolir gan yr Awdurdod Palesteinaidd. Mae'r Lan Orllewinol, rhwng Israel a Gwlad Iorddonen, dan reolaeth yr Awdurdod yn ogystal.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Aelodau Cynghrair y Gwledydd Arabaidd | |
---|---|
Yr Aifft | Algeria | Bahrain | Comoros | Djibouti | Gwlad Iorddonen | Irac | Kuwait | Libanus | Libya | Mauritania | Moroco | Oman | Palesteina | Qatar | Saudi Arabia | Somalia | Syria | Swdan | Tunisia | UAE | Yemen | |
Gwledydd y Môr Canoldir | |
---|---|
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci |