ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg - Wicipedia

Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg

Oddi ar Wicipedia

Baner Cymru
Cymraeg
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Iaith
Gramadeg | Morffoleg | Orgraff | Seinyddiaeth | Yr wyddor | Cymraeg llafar | Cymraeg ysgrifenedig | Benthyg geiriau
Hanes
Hanes | Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg | Cymraeg Cynnar | Hen Gymraeg | Cymraeg Canol | Cymraeg Modern Cynnar | Cymraeg Modern Diweddar | Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg | Addysg Gymraeg
Diwylliant a chyfryngau
Diwylliant | Cerddoriaeth | Eisteddfod | Ffilm | Llenyddiaeth | Theatr
Cyfryngau | Papurau newydd | Radio | Rhyngrwyd | Teledu
Tafodieithoedd
Tafodieithoedd | Cymraeg y gogledd | Cymraeg y de | Y Bowyseg | Y Ddyfedeg | Y Wenhwyseg | Y Wyndodeg | Cymraeg y Wladfa | Wenglish
Mudiadau a sefydliadau
Bwrdd yr Iaith Gymraeg | Cymdeithas yr Iaith | Y Cymmrodorion | Cymuned | Merched y Wawr | Yr Urdd
y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg yn ymestyn dros gyfnod o 16 canrif.


Taflen Cynnwys

[golygu] Y cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid

Pan adawodd y Rhufeiniaid Brydain yn y 5ed ganrif roedd tiriogaeth y Frythoneg yn ymestyn trwy dir mawr Prydain drwyddi draw, heblaw o bosib am diroedd y Pictiaid (nad oes sicrwydd ynglŷn â'u hanes ieithyddol) yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban a’r tiroedd yng Ngogledd Orllewin yr Alban lle y tybir y siaredid tafodiaith Celteg-Q o bosib yn hytrach na Chelteg-P. [1] Roedd y Frythoneg yn dechrau newid yr adeg hon ac yn esgor ar y tafodieithoedd Cernyweg a Chymraeg. Ar yr un pryd roedd mewnlifiad pobloedd i Brydain ac ymryson am bŵer yn golygu bod ieithoedd yr estroniaid yn disodli’r Frythoneg mewn rhannau o Brydain.

Gydag ymadawiad y Rhufeiniaid cafwyd mewnlifiad o Wyddelod a’r Wyddeleg i Gernyw a Chymru, yn Nyfed, draw cyn belled â Brycheiniog ac ar hyd yr arfordir gorllewinol, am gyfnod hir, gan ddechrau yn y 5ed ganrif. Ond dychwelyd i Iwerddon neu gael eu cymathu i’r Gymraeg y bu eu hanes wrth i’r Llychlynwyr wanhau gafael y Gwyddelod ar eu tiriogaethau yn y 9fed ganrif. Diflannu bu hanes y Wyddeleg yng Nghernyw ac yng Nghymru, ond gan adael nifer o groesau a cherrig beddau Ogam, yn enwedig yn Sir Benfro, ac enwau llefydd a tharddiad Gwyddelig megis Llŷn. Ar yr un adeg cyrhaeddodd y Gwyddelod Dalriada yng Ngorllewin yr Alban, gan ymledu eu dylanwad a’u hiaith Gelteg-Q ar draws ucheldir yr Alban.

Nid oes sicrwydd am ba hyd y parhaodd poblogaeth Lloegr i siarad Cymraeg wedi mewnlifiad yr Eingl, y Sacsoniaid a’r Daniaid. Mae tystiolaeth bod Cymraeg yn dal yn fyw ar dafod rhai yn Nwyrain Lloegr hyd 700. Gan fod enwau Celtaidd ar rai afonydd ac ychydig o leoedd yn ardaloedd gwledig de Lloegr (e.e. Brent, Ouse, Kent) wedi eu trosglwyddo i'r Saesneg gellir tybied bod y Brythoniaid oedd yno yn dal i siarad Brythoneg yn ystod y 5ed a’r 6ed ganrif. Ond yn hwyr neu hwyrach, diflannu bu hanes y Gymraeg yn y tiroedd hynny a feddiannwyd gan yr Eingl-Sacsoniaid neu’r Daniaid. Parheid i siarad Cymraeg yn y teyrnasoedd hynny a arhosent o dan lywodraeth Brythoniaid, yng Nghymru, yng Ngogledd Orllewin Lloegr a De’r Alban. Yn nhiroedd Rheged, Ystrad Clud a Bro’r Gododdin yn y Gogledd (a elwir yr Hen Ogledd) ac yng Nghymru a'r Gororau yn y Gorllewin y sefydlwyd Cymraeg Cynnar yn brif iaith a diwylliant y bobl am ragor nag ychydig ganrifoedd wedi ymadawiad y Rhufeiniaid. Daw’r farddoniaeth Cymraeg cynharaf sydd wedi goroesi o diriogaethau’r Hen Ogledd, gan gynnwys Y Gododdin, sydd yn adrodd hanes brwydr Catraeth tua 595.

Mae cryn ddyfalu ymhlith haneswyr paham bod y Gymraeg wedi diflannu o’r tiroedd a oresgynnwyd gan estroniaid, yn hytrach na bod yr estroniaid wedi eu cymathu i’r Gymraeg. Cymhathiad a ddigwyddodd yng Ngâl lle y cefnodd y mewnfudwyr Almaenaidd ar eu tafodieithoedd Almaeneg gan fabwysiadu Lladin y brodorion. Tybir mai statws uchel y Lladin oedd wedi ysgogi’r newid yng Ngâl ond bod statws gymharol isel y Gymraeg yn golygu na fabwysiadwyd hi gan y mewnfudwyr.

Yn ystod y canrifoedd cythryblus hyn yr ymddangosodd ymwybyddiaeth ymhlith y Brythoniaid a oedd yn colli tiriogaeth i oresgynwyr ac ieithoedd estron eu bod yn perthyn i un bobl. Yn sgil yr ymwybyddiaeth hon yr ymddangosodd yr enw “Cymry” (ac o hwnnw hefyd y gair “Cymraeg” am yr iaith) ymhlith pobl y gorllewin a’r Hen Ogledd i gyfeirio atynt hwy eu hunain. Tarddiad yr enw hwn yw’r gair Brythoneg “Cymbrogi” a olygai cydwladwyr. Y bobl oedd yn siarad Cymraeg oedd y Cymry.

Cael eu goresgyn bu hanes y teyrnasoedd Brythonig yng Ngogledd Lloegr a’r Alban. Erbyn diwedd y 7fed ganrif dim ond Ystrad Clud a oroesai o’r teyrnasoedd Brythonig yn yr Hen Ogledd. Parodd hwnnw hyd at ddechrau’r 11eg ganrif pan y'i goresgynnwyd gan deyrnas yr Alban. Graddol ddiflannu wnaeth y Gymraeg y tu allan i dywysogaethau Cymru.

[golygu] Dyfod y Normaniaid

Yng Nghymru parhasai y teyrnasoedd Cymreig heb eu concro, er i’r teyrnasoedd dwyreiniol golli tir i’r teyrnasoedd Eingl-sacsonaidd, tan ddyfodiad y Normaniaid. Daeth yr Eingl-normaniaid â gwladychwyr yn eu sgil i diroedd ffrwythlon de Cymru ac i’r trefi a dyfent yng nghysgod eu cestyll. Dros y canrifoedd a ddilynent cael eu cymathu gan y brodorion Cymreig fyddai hanes llawer ond nid pawb ohonynt. Ni lwyddwyd byth i Gymreigio e.e. ym Mro Gŵyr ac ardal ‘Little England Beyond Wales’ ym Mro Penfro.

Gyda thwf pŵer y Normaniaid a statws a dylanwad Ffrainc ar Ewrop fe dyfai statws y Ffrangeg yn ystod Oes y Tywysogion. Mae rhai wedi dadlau mai Ffrangeg fyddai iaith llysoedd tywysogion Cymru erbyn cyfnod Llywelyn Fawr, gan gyfeirio at y geiriau benthyg o’r Ffrangeg a fabwysiadwyd gan y Gymraeg yr adeg honno. Cred eraill na ddisodlwyd Cymraeg yn llysoedd tywysogion Cymru, gan nodi mai Cymraeg fyddai iaith llysoedd barn Cymru ac mai yn Gymraeg yn hytrach na Ffrangeg y canai beirdd y llys.

[golygu] Cyfnod y Tuduriaid

Wedi goresgyniad Cymru gan Edward I ym 1283 ni fu newid ymarferol amlwg yn statws y Gymraeg am gyfnod. Parhâi'r uchelwyr a’r mynachlogydd i noddi’r beirdd gan gynnal eisteddfodau a bywyd diwylliannol Cymru. Parheid i ddefnyddio Cyfraith Hywel Dda mewn rhannau o Gymru er bod statws y Saesneg wedi codi ymhlith yr uchelwyr a swyddogion y Goron. Dechreuwyd ysgrifennu ewyllysiau a dogfennau cyfreithiol eraill, a llythyrau yn Saesneg, arfer a oedd yn eithaf cyffredin erbyn y 15ed ganrif. [2] Daeth newid byd wedi i Harri VII gipio coron Lloegr ym 1485. Aeth llawer o’r uchelwyr Cymreig a fu’n brwydro yng nghad Harri VII i lys y brenin yn Llundain. Yr adeg hon y gwelid dechrau Seisnigeiddio uchelwyr Cymreig, wrth i rai ohonynt ymgartrefu yn Lloegr a’u disgynyddion yn colli eu gafael ar y Gymraeg.

Wrth i rai o’r uchelwyr ddechrau ymbellhau o Gymru, daeth dirywiad araf i’r system noddi beirdd. Adeg Harri VIII collodd y beirdd nawdd y mynachlogydd hefyd pan y’u diddymwyd bron i gyd ym 1536. Ym 1536 y pasiwyd hefyd y Ddeddf Uno (a ategwyd iddi gan ddeddf 1542) a oedd yn dileu’r gwahaniaeth statws cyfreithiol rhwng pobl o dras Gymreig ac o dras Seisnig. Ar yr un pryd creodd y Ddeddf wahaniaeth newydd rhwng statws y Gymraeg a’r Saesneg. Saesneg fyddai unig iaith llysoedd Cymru, a chyfraith Lloegr yn unig a gydnabyddid yn y llysoedd. Ni châi swyddogion cyhoeddus ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’n debyg mai nod y llywodraeth oedd cryfhau grym canolog unffurf y wladwriaeth a’i weinyddu trwy sgweieriaid Cymreig a fedrai’r Saesneg yn rhugl. Yr oedd y twf yn y mynd a dod rhwng Cymru a Lloegr dros y canrifoedd hefyd yn ysgogiad i ddysgu Saesneg. Ymhen dwy neu dair canrif wedi’r Ddeddf Uno byddai’r Gymraeg wedi diflannu o enau’r boneddigion Cymreig.

Nid oedd hi'n ymarferol bosibl cadw at lythyren 'cymal iaith' y Ddeddf Uno yn y Gymru uniaith Gymraeg. Pan oedd y llywodraeth neu ei swyddogion am gyfathrebu â phobl Cymru neu am ddwyn perswad ar y Cymry, e.e. adeg etholiad, yna defnyddient y Gymraeg. Fel ag a ddisgrifir isod defnyddid Cymraeg ar lafar yn y llysoedd barn. Yn wir, mae cofnodion y llysoedd yn ffynhonnell bwysig ar gyfer astudio hanes Cymraeg llafar.

Roedd adeg teyrnasiad y Tuduriaid yn adeg o gythrwfl rhwng mudiad newydd y Protestaniaid a'r Eglwys Gatholig. [3] Yn ystod teyrnasiad Edward VI, yn 1549, pasiwyd Deddf yn gorfodi defnydd y Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg (yn lle Lladin) yn holl eglwysi'r wlad (roedd yr eglwys wladol wedi ei hymgorffori'n Eglwys Brotestannaidd gan Harri'r VIII). Dyma nawr Gymry Cymraeg yn clywed sain Saesneg bob dydd Sul trwy Gymru benbaladr. Ar yr un pryd roedd William Salesbury ymhlith eraill yn gweld eisiau cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn ôl ei ddaliadau Protestannaidd a hefyd er mwyn amddiffyn y Gymraeg wedi i'r iaith gael ei diraddio gan Ddeddf 1536. Dechreuodd ef ar y gwaith o gyfieithu darnau o'r Ysgrythur i'r Gymraeg, gan gyhoeddi casgliad o ddarlleniadau o'r Beibl yn 1551 (na chai ganiatâd i'w darllen yn gyhoeddus).

Ni wyddys i sicrwydd sut y darbwyllwyd ar y llywodraeth i newid polisi. Roedd cael yr Ysgrythur yn y famiaith ac addoli trwy gyfrwng yr iaith frodorol yn hytrach na Lladin yn un o sylfeini'r diwygiad Protestannaidd. Cymry uniaith oedd mwyafrif llethol pobl Cymru. Tyfu gwnaeth dylanwad y Protestaniaid yn ystod teyrnasiad Elisabeth I. Ar yr un pryd roedd Elisabeth I a'i chynghorwyr yn ofni gwrthryfel Catholig yn eu tiroedd ac am ddenu pobl Cymru at y ffydd Brotestannaidd yn hytrach na'u cythruddo ac efallai creu gelynion. Mae'n debyg y dadleuai rhai bod clywed darlleniadau Saesneg a Chymraeg ar y cyd yn hyrwyddo dealltwriaeth y Cymry o Saesneg ac felly'n galluogi lledaeniad Saesneg trwy Gymru. Roedd arwyddion newid i'w gweld pan drefnwyd yn 1561 i ddarllen o'r Beibl yn Gymraeg ar ôl y darlleniad yn Saesneg yn esgobaeth Llanelwy. Yna cafwyd caniatâd i argraffu'r Litani yn Gymraeg yn 1562. Yna yn 1563 pasiwyd Deddf yn ei wneud yn orfodol i ddarllen yr ysgrythurau a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn Gymraeg yn yr eglwysi hynny lle'r oedd y Gymraeg yn cael ei harfer. Yn ogystal â hyn gorchmynnai’r Ddeddf i esgobion Cymru a Henffordd [4] i drefnu i gael cyfieithiadau o'r Ysgrythurau ac o'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Cyhoeddwyd cyfieithiad William Morgan o'r Beibl cyfan yn 1588 a honno'n gyfieithiad ysgolheigaidd, urddasol ei Chymraeg ag eto'n ddealladwy a darllenadwy. Pan gyhoeddwyd y Beibl Cymraeg dim ond mewn 13 iaith arall yr oedd y Beibl eisoes wedi ei chyhoeddi. [1] Heblaw am y Gymraeg mewn ieithoedd gwladwriaethau yn unig yr ymddangosodd y Beibl yn ystod y ganrif gyntaf wedi'r diwygiad Protestannaidd.

Canlyniad cyhoeddi Beibl William Morgan a goblygiadau Deddf 1563 oedd dychwelyd urddas y Gymraeg iddi unwaith eto. Digon helbulus fyddai hanes y Gymraeg oddi mewn i eglwys Loegr yn ystod y canrifoedd i ddod. Rhwng 1700 a 1870 ni phenodwyd un esgob a oedd yn medru'r Gymraeg i esgobaeth yng Nghymru. Ond golygai’r ffaith bod Beibl Cymraeg ar gael bod y Gymraeg i'w chlywed yn gyhoeddus a bod modd diwinydda trwy gyfrwng y Gymraeg. Y diwinyddion Protestannaidd cynnar oedd ymysg y rhai cyntaf i gyhoeddi llyfrau Cymraeg gan gynnwys Llythyr i’r Cymry Cariadus gan Morgan Llwyd (1619 - 1659) a cherddi’r ficer Prichard (15791644). Yn ystod y diwygiad Methodistaidd a thwf Anghydffurfiaeth roedd Beibl Cymraeg eisoes wrth law, yn sicrhau mai Cymraeg fyddai iaith crefydd yng Nghymru.

[golygu] Addysg Gymraeg

Gweler Addysg Gymraeg


[golygu] Twf dwyieithrwydd

Y mae cysylltiadau masnachol wedi bodoli rhwng trigolion Lloegr a Chymru ers pan gyrhaeddodd y Saeson gyntaf. Hyd yn ddiweddar byddai'r gwŷr busnes o Loegr a ddeuent i ardaloedd Cymru lle y trigai Cymry uniaith yn rhwym o ddysgu Cymraeg er mwyn ennill bywoliaeth. Byddai'r Cymry a fasnachent ar draws Glawdd Offa, gan gynnwys y gyrwyr gwartheg, hefyd yn ddwyieithog.

Pan aeth Harri VII i Lundain i gymryd coron Lloegr aeth â mintai o uchelwyr Cymru gydag ef. Wedi Deddfau Uno 1536 a 1542 parhau i dyfu gwnaeth y cysylltiadau rhwng uchelwyr Cymru a Lloegr. Ar yr un pryd lleihau wnaeth cysylltiadau uniongyrchol â gwledydd tramor eraill, yn enwedig â Ffrainc. Buan y daeth yr Uchelwyr i fod yn ddwyieithog ac yna, ymhen hir a hwyr, yn siaradwyr Saesneg uniaith. Gan fod angen i unrhyw un a ddaliai swydd gyhoeddus fedru'r Saesneg rhaid oedd i'r mân uchelwyr a arhosai yng Nghymru a'r neb a fynnai ddal swydd gyhoeddus hefyd ddysgu Saesneg. Anfonai rhai eu plant i Loegr i'w haddysgu. Agorwyd hefyd ysgolion preifat yng Nghymru a'u prif swyddogaeth oedd dysgu Saesneg i'w disgyblion.

Gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol cafwyd mewnfudo i'r ardaloedd diwydiannol o weddill Cymru ac o'r tu allan i Gymru. Cynyddodd dwyieithrwydd yng Nghymru yn gyflym iawn a'r gweithwyr yn aml yn dysgu ieithoedd ei gilydd er mwyn gallu cydweithio. Siaredid Cymraeg hefyd rhwng y gweithwyr a'r rheolwyr yn y diwydiannau hynny lle'r oedd y meistri yn Gymry Cymraeg megis mewn llawer o'r ffatrïoedd gwlân. Ond Saesneg oedd iaith y rheolwyr yn y gweithiau a reolwyd gan estroniaid. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif fodd bynnag, wrth i ganran y gweithwyr di-Gymraeg godi roedd llai o angen iddynt siarad Cymraeg, yn enwedig pan nad oedd y rheolwyr yn siarad Cymraeg. Lleihau gwnaeth canran y dwyieithog yn sgil twf unieithrwydd Saesneg.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd rhyw 70% o bobl Cymru'n Gymry uniaith. Erbyn cyfrifiad 1891 roedd canran y Cymry uniaith wedi gostwng i 30.4% (ac mae lle i amau cywirdeb y ffigwr hwn yn y cyfrifiad cyntaf i holi ynglŷn â'r Gymraeg), erbyn 1901 gostyngodd i 15.1% ac erbyn 1911 i 8.7%. Ni fyddai nemor neb yn Gymry Cymraeg uniaith wedi'r 1960'au. Serch hynny mae llawer yn fwy cartrefol yn siarad Cymraeg na Saesneg, naill ai bob amser neu yn ôl pwnc y sgwrs.

Yn ystod yr 20fed ganrif mae Saesneg wedi treiddio i bob cwr o fywyd pob dydd, gan gynnwys i'r aelwyd trwy'r radio a'r teledu. Ar yr aelwydydd hynny lle y ceir o leiaf un person yn medru'r Gymraeg erbyn hyn dim ond ar eu hanner y ceir rhagor nag un yn siarad Cymraeg. Adlewyrchir presenoldeb trwyddi draw y Saesneg mewn dramâu a ffilmiau a ffuglen sydd yn ceisio cyfleu'r byd sydd ohoni trwy ddefnyddio cymeriadau di-Gymraeg. Mae'r defnydd hwn o Saesneg mewn dramâu ag ati wedi cynyddu'n fawr yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

Gwelwyd hefyd newid yn agwedd rhai o'r di-Gymraeg at y Gymraeg yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Mae polisïau iaith rhai cynghorau lleol lle y disgwylir i weithwyr ddysgu'r Gymraeg os nad ydynt yn ei siarad yn barod yn sbardun i rai i ddysgu'r iaith ond y mae newid agwedd mwy cyffredinol i'w weld mewn rhai pobl. Yn ogystal â bod rhieni di-Gymraeg yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg gwelwyd hefyd dwf yn nifer yr oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Y mae'r ddarpariaeth dysgu Cymraeg hefyd wedi datblygu'n gyflym gyda dyfodiad cyrsiau wlpan, darpariaeth deunyddiau dysgu cyfoes a chydweithio gydag S4C a'r BBC i ddarparu gwersi Cymraeg ac is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar y teledu.

Yn ysgolion uwchradd Awdurdodau Lleol Cymru heddiw (228 ohonynt i gyd yn 2006), dysgir Cymraeg yn iaith gyntaf yn unig mewn 20 ohonynt, fel iaith gyntaf ac ail iaith mewn 54 arall ac fel ail iaith yn unig yn y gweddill. [5]

Yn sgil y galw ar i'r llywodraeth ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg datblygodd diwydiant cyfieithu i'r Gymraeg. Cafwyd cyfieithwyr Cymraeg-Saesneg proffesiynol yng Nghymru a digon ohonynt i ffurfio Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn 1976. [6] Rhoddodd deddf iaith 1993 hwb i'r diwydiant cyfieithu, yn enwedig ar gyfer y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

[golygu] Symudiadau poblogaeth a nifer y Cymry Cymraeg

Serch bod yr uchelwyr yn colli eu Cymraeg a dwyieithrwydd yn araf gynyddu gyda thwf y cysylltiadau â Lloegr (a lleihad y cysylltiadau tramor uniongyrchol rhwng Cymru a gwledydd eraill) ni fu newid mawr yn sefyllfa’r Gymraeg o ran nifer siaradwyr am rai canrifoedd wedi’r Ddeddf Uno. Wedi’r gwladychiad adeg y goncwest Normanaidd ni fu mewnfudo i Gymru o sylwedd tan adeg y Chwyldro Diwydiannol. Credir bod tua 90% [7] o drigolion Cymru yn Gymry Cymraeg ar ddechrau'r 19eg ganrif.

Adeg y Chwyldro Diwydiannol bu mewnlifiad sylweddol i Gymru, o Loegr ac Iwerddon yn bennaf. Ar yr un pryd roedd y Cymry eu hunain yn symud o’r wlad i’r ardaloedd diwydiannol yn hytrach na gorfod ymfudo o Gymru i chwilio am waith. Tua 500,000 oedd poblogaeth Cymru yn 1770. Tyfodd y boblogaeth i tua 1,163,000 erbyn 1851 a 2,420,921 erbyn 1911. [1] [7] Mewn rhai ardaloedd diwydiannol cymathu’r tramorwyr a’r mewnfudwyr o du draw i Glawdd Offa i’r Gymraeg fu’r hanes yn hytrach na bod y Saesneg yn ennill y dydd. Gellir gweld cryfder y diwylliant Gymraeg yn y 19eg ganrif yn y gallu hwn i gymathu estroniaid i’r Gymraeg. Ond erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd nifer y mewnfudwyr tramor i'r cymoedd diwydiannol yn mynd yn drech na'r gallu i gymathu'r mewnfudwyr i'r Gymraeg. Cymathu ieithyddol gan y Saesneg fyddai hanes cymunedau Cymraeg yn ystod yr 20fed ganrif.

Y prif ffactorau y credir eu bod yn dylanwadu ar gymathu ieithyddol ac yn arwain at newid yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yw:

  • mewnfudiad siaradwyr Saesneg i'r ardaloedd diwydiannol yn y 19eg ganrif a hyd at y rhyfel byd cyntaf ac i'r ardaloedd gwledig yn hanner olaf yr 20fed ganrif.
  • ymfudo'r Cymry Cymraeg o'r ardaloedd gwledig i'r trefi, yr ardaloedd diwydiannol a thu draw i glawdd Offa, yn enwedig wedi'r ail ryfel byd.
  • iaith cyfrwng addysg.
  • y ddirnadaeth o'r fantais faterol o fedru siarad Saesneg, ac ers rhyw 20 mlynedd y fantais faterol o fedru siarad Cymraeg.
  • twf cyfryngau newyddion ac adloniant rhyngwladol trwy gyfrwng y Saesneg yn yr 20fed ganrif.
  • lleihad ym mhwysigrwydd y capeli yn sail i fywyd cymdeithasol diwylliannol Gymraeg wedi'r rhyfel byd cyntaf, yn rhannol oherwydd y rhyfel.
Map canran siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru yn ôl cyfrifiad 2001.
Map canran siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru yn ôl cyfrifiad 2001.

Rhwng 1801 a 1901 gostyngodd canran y Cymry Cymraeg yng Nghymru o tua 90% i 50%. [8] Serch bod canran y Cymry Cymraeg yng Nghymru yn cwympo roedd niferoedd siaradwyr Cymraeg yn cynyddu, gan agos i ddyblu rhwng 1801 a 1901. Cafwyd dirywiad yng nghanran ac yn niferoedd y Cymry Cymraeg yn ystod yr 20fed ganrif, hyd yn ddiweddar. Cyfrifiad 1981 a ddengys y canran isaf erioed o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, 18.9%. Fe ddengys cyfrifiad 2001 gynnydd bychan i 20.5% yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Cynyddodd nifer a chanran siaradwyr Cymraeg ymhlith yr ifainc dros yr un cyfnod i 37.7% o blant rhwng 3 a 15 oed, sef cynnydd o 13.4%. [9] Mae'r cyfartaledd trwy Gymru yn cuddio amrywiaeth mawr rhanbarthol trwy Gymru ac yn wir amrywiaeth rhwng pentref a phentref cyfagos. Tua 69% yw canran siaradwyr Cymraeg Gwynedd ar gyfartaledd a thua 9% yw'r canran ym Mynwy yn ôl cyfrifiad 2001.


Nifer a chanran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ôl y cyfrifiad
Blwyddyn 1891 1901 1911 1931 1951 1981 1991 2001
% 54.5% 49.9% 43.5% 36.8% 28.9% 18.9% 18.6% 20.8%
Nifer 910,289 929,824 977,366 909,261 714,686 508,207 508,098 582,368(A)


  • (A) Yn ôl cyfrifiad 2001 medrai 797,717 ddeall, siarad, darllen, neu ysgrifennu Cymraeg ac roedd 457,890 yn gallu ei deall, siarad, darllen a'i hysgrifennu.

[golygu] Ymfudwyr a'r Gymraeg

Adeg yr erlid ar y Crynwyr ar ddiwedd y 17eg ganrif bu i'r mwyafrif o'r Crynwyr Cymreig ymfudo i Pennsylvania. Roedd William Penn wedi addo gwladfa Gymreig i'r Crynwyr hyn ond ni chadwodd ei air. Serch hynny fe gadwodd Crynwyr Cymreig Pennsylvania eu gafael ar y Gymraeg a diwylliant Cymreig am sawl cenhedlaeth. Ymfudodd Anghydffurfwyr eraill i America ar yr un adeg, gan gynnwys cymuned cyfan Bedyddwyr Llanilltud Gŵyr a aethant i Swanzey, Massachusetts. [1]

Bu i lawer o ymfudwyr o Gymru yn ystod y 19eg ganrif fod yn ddigon niferus yn eu bröydd newydd i gynnal bywyd cymdeithasol a chrefyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn bennaf yn UDA ac yn Awstralia. Aeth yr ymfudwyr i Awstralia a'r traddodiad eisteddfodol ganddynt, sydd erbyn hyn wedi gwreiddio yn niwylliant Awstralia, ond sydd erbyn hyn yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Saesneg. Roedd digon o Gymry Cymraeg brwdfrydig a dylanwadol yn UDA i gynnal eisteddfod fawreddog yn ystod Ffair y Byd Chicago yn 1893. Ceir corau Cymreig o hyd yn UDA a chynhelir Cymanfaoedd Canu yno ond trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf erbyn hyn.

Am hanes y Gymraeg yn y Wladfa gweler Y Wladfa.

Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn byw tu allan i Gymru. Yn y dinasoedd mawrion ceir weithiau ddigon o Gymry Cymraeg i gynnal gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg, dinasoedd megis Lerpwl (a elwir yn 'brifddinas Gogledd Cymru'), Llundain ac Efrog Newydd. Nid oes data dibynadwy ar gael ynglŷn â'r niferoedd sy'n siarad Cymraeg ac yn byw tu allan i Gymru.

[golygu] Cenedlaetholdeb a'r Gymraeg

Mae lle canolog wedi bod i'r Gymraeg yn yr ymwybyddiaeth o Gymreictod ers amser maith. Mae i'w weld yn y mythau sy'n deillio o Oes y Tywysogion ac adeg concwest y Normaniaid. Cofnodwyd un broffwydoliaeth ynglŷn â'r Gymraeg gan Gerallt Gymro, sef ymateb hen ŵr ym Mhencader pan ofynnodd Harri II iddo beth a feddyliai am ei fyddin a gallu Cymru i wrthsefyll yr ymosodiadau arni. Cofnodir iddo ddweud:

'Ei gorthrymu, yn wir, ac i raddau helaeth iawn ei distrywio a'i llesgáu trwy dy nerthoedd di, O frenin, ac eiddo eraill, yn awr megis gynt a llawer gwaith eto tan orfodaeth ei haeddiannau, a ellir â'r genedl hon. Yn llwyr, fodd bynnag, trwy ddigofaint dyn, oni bo hefyd ddigofaint Duw yn cyfredeg ag ef, ni wneir ei dileu. Ac nid unrhyw genedl arall, fel y barnaf fi, amgen na hon o'r Cymry, nac unrhyw iaith arall, ar Ddydd y Farn dostlem gerbron y Barnwr Goruchaf, pa beth bynnag a ddigwyddo i'r gweddill mwyaf ohoni, a fydd yn ateb dros y cornelyn hwn o'r ddaear.' [10]

Wyneb yn wyneb â'r Saesneg a dylanwad Seisnig y mae'r ymwybyddiaeth hon wedi datblygu. Cafodd polisi llywodraeth Lloegr ynglŷn â'r Gymraeg ei gorffori gyntaf yn Neddf Uno 1536 fel ag a ddisgrifiwyd uchod. Wedi'r Ddeddf Uno tawyd a sôn yng Nghymru am Gymru fel gwlad ar wahân i Loegr am yn agos i ddwy ganrif. Cafodd myth le i ffynni unwaith eto yn y cyniwair rhamantaidd yn y 18fed ganrif. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans gyntaf yn 1716 ac yna'i hailargraffu yn 1740. Hanes cynnar Cymru oedd mater y gyfrol a'r hanes hwnnw'n drwm o chwedloniaeth. Haera bod y Cymry'n disgyn o Gomer, ŵyr Noa, a bod y Gymraeg yn hen iaith, yn un o'r ieithoedd a siaradwyd yn nhŵr Babel. [1] Ailargraffwyd y gwaith hwn o leiaf ugain gwaith erbyn 1900. Dechreuwyd chwedlona o'r newydd gyda chyhoeddiad Mona Antiqua restaurata gan Henry Rowlands yn 1723. Cydiodd Iolo Morgannwg yn ei syniadau cyfeiliornus ynglŷn â'r derwyddon, rhamantu a fyddai'n esgor ar ffurf fodern Gorsedd y Beirdd a'r eisteddfod.

Adeg y Chwyldro Diwydiannol gwelwyd hefyd dwf mewn anufudd-dod sifil a therfysgaeth (e.e. Gwrthryfel y Siartwyr, 1839, a helynt y Beca). Honnwyd mai'r Gymraeg oedd wrth wraidd terfysgaeth, a bod safonau moesol ac addysgol y Cymry Cymraeg yn waeth nag eiddo'r di-Gymraeg. [11] Comisiynwyd arolygon gan y llywodraeth i brofi'r haeriadau hyn ac i gyfiawnhau polisïau iaith i hybu'r Saesneg ar draul y Gymraeg. Adroddiad y Brad y Llyfrau Gleision, 1847, yw'r adroddiad enwocaf o'r rhain. Ond ni chafwyd polisïau iaith llwyr ormesol yng Nghymru yn sgil hyn fel ag a gaed yn Llydaw er enghraifft. Y mae ôl twf yr agwedd ddirmygus hon o'r Gymraeg i'w weld serch hynny ym meddylfryd israddol y Cymry ynglŷn â'u hiaith a'r rheidrwydd a deimlent i ddangos eu bod llawn cystal â'r Saeson.

Gwelodd canol y 19eg ganrif dwf sylweddol yn yr ymwybyddiaeth o genedlaetholdeb ar draws Ewrop. Gwelwyd twf mewn grym canolog, ymerodraethol ei naws, megis yn ymerodraethau Rwsia ac Awstria-Hwngari, Ffrainc a Phrydain. Yn adwaith i hyn tyfodd hunanymwybyddiaeth y cenhedloedd bychain a lyncwyd neu a fygythiwyd eu llyncu gan yr ymerodraethau mawrion hyn. Roedd ymgyrchu dros iaith yn rhan amlwg o waith y mudiadau cenedlaethol newydd hyn. Cafwyd llwyddiant yn ennill lle i'r iaith Tsieceg yn y gyfundrefn addysg. Yng Nghymru ffurfiwyd niferoedd o fudiadau a ymgyrchent dros y Gymraeg. Yn wir, fe ddaeth yr iaith Gymraeg i hawlio rhan amlwg yn y ddirnadaeth o genedligrwydd Cymreig o'i gymharu â'r rhan a hawliai rhai o'r ieithoedd eraill nad oeddynt yn iaith y wladwriaeth, megis Gaeleg yr Alban, yn eu dirnadaeth hwythau o genedligrwydd.

Ymgyrchai'r mudiadau politicaidd hyn, a rhai unigolion amlwg, ym meysydd addysg, y gyfraith a'r weinyddiaeth, diwylliant, a chrefydd. Yn eu plith y mae:

[golygu] Statws swyddogol

Fel ag y soniwyd eisoes collodd y Gymraeg ei statws fel iaith gweinyddiaeth a llysoedd barn yn ôl cymal 17 Deddf Uno 1536 (y 'cymal iaith'). [12] Dylid crybwyll na olygai hyn na chlywid Cymraeg fyth yn y llysoedd barn. [2] Rhaid oedd clywed tystiolaeth Cymry uniaith Gymraeg yn Gymraeg a'i gyfieithu i'r Saesneg. Deallai ambell un o farnwyr Llys y Sesiwn Fawr Gymraeg a nifer dda o ustusiaid heddwch y Llysoedd Chwarter (y mwyafrif o'r ustusiaid hyd at 1660 o leiaf), a goddefai rhai o'r rhain defnydd y Gymraeg ar lafar yn y llys, gan anwybyddu'r gyfraith. Ond serch bod Cymraeg weithiau yn cael ei ganiatáu nid oedd hawl gan neb i'w defnyddio.


Dechreuwyd ymgyrchu o ddifri i adennill statws cyfreithiol i'r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Tynnwyd sylw at y sefyllfa gyfreithiol yn yr achos llys ynglŷn â llosgi'r ysgol fomio yn 1936 pan wrthododd y diffynyddion siarad Saesneg wedi i'r achos gael ei drosglwyddo i'r Old Bailey yn Llundain. Cyflwynwyd Deiseb yr Iaith Gymraeg yn gofyn am ddiddymu 'cymal iaith' Deddf Uno 1536 gerbron Tŷ'r Cyffredin yn 1941. Ni chafwyd diddymu'r cymal. Yn hytrach pasiwyd Deddf Llysoedd Cymru 1942 yn rhoi hawl cyfyng iawn i gymryd y llw ac i roi tystiolaeth yn Gymraeg mewn Llys Barn. Dim ond i'r Cymry Cymraeg a fyddent dan anfantais wrth dystiolaethu yn Saesneg, h.y. y rhai uniaith Gymraeg y perthynai'r hawl hyn.


Parhawyd i ymgyrchu gan lwyddo cael hawl diamod i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llys barn yng Nghymru yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg 1967. Rhoddodd y ddeddf hefyd y gallu i weinidogion i bennu fersiynau Cymraeg o ddogfennau statudol, ar yr amod mai'r Saesneg a fyddai drechaf pe bai unrhyw anghysondeb rhwng y ddau destun. Parhâi’r Saesneg yn iaith cofnodi'r llysoedd barn. Nod y gyfraith oedd rhoi 'dilysrwydd cyfartal', sef bod unrhyw beth a wneid yn Gymraeg yng Nghymru â'r un grym cyfreithiol a phe bai yn Saesneg. Yn ymarferol rhoddai'r ddeddf hon y cyfle i swyddogion cyrff cyhoeddus ddefnyddio a chyfathrebu yn Gymraeg heb ei wneud yn ddyletswydd arnynt wneud hynny. Ni roddai'r ddeddf unrhyw hawl i unigolyn i dderbyn gwasanaeth yn Gymraeg gan gyrff cyhoeddus.


Beirniadwyd Deddf 1967 yn llym am ei ddiffyg dannedd. Parhawyd i ymgyrchu. Yn 1993 cafwyd Deddf yr Iaith Gymraeg newydd. Darparodd y ddeddf y canlynol:

  • Rhoddwyd y swyddogaeth o hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus ac i arolygu gwireddiad y Ddeddf i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
  • Gosodwyd rheidrwydd ar gyrff cyhoeddus i baratoi cynllun i bennu'r mesurau y bwriadent eu cymryd ynglŷn â defnyddio'r iaith Gymraeg.
  • Rhoddwyd yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llys barn.
  • Diddymwyd darpariaethau Deddfau 1942 a 1967 a hawliai gadw cofnodion llys yn Saesneg.
  • Diddymwyd darpariaeth Deddf 1967 mai'r Saesneg fyddai drechaf pe digwyddai unrhyw anghysondeb rhwng testun Cymraeg a thestun Saesneg.
  • Gorchmynnwyd bod pob ffurflen a rhestr gylchol swyddogol yn cael ei darparu yn Gymraeg.
  • Gosodwyd dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd yng Nghymru.


Disodlwyd y term 'dilysrwydd cyfartal' o Ddeddf 1967 gan y term 'sail cydraddoldeb' yn Neddf 1993.


Y mae Deddf 1993 wedi ei feirniadu ar y seiliau hyn:

  • Nid oes ynddo 'gymal pwrpas' yn datgan bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
  • Nid oes gorfodaeth ar gyrff a busnesau preifat i gynnig unrhyw ddarpariaeth Gymraeg i'r cyhoedd.
  • Nid yw'r Ddeddf yn datrys y gwrthdaro posibl â darpariaeth Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 rhag camwahaniaethu lle y gosodir amod cyflogaeth sy'n gofyn am y gallu i siarad Cymraeg.
  • Nid oes hawl i unigolyn i fynnu cael prawf llys gerbron rheithgor sy'n medru'r Gymraeg.
  • Nid oes gan unigolyn a ddioddefodd golled yn sgil tor-darpariaeth cynllun iaith hawl ar iawndal.


Yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 1998, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal cyn belled ag y mae'n ymarferol. Mae pob is-ddeddfwriaeth yn ddwyieithog. Mae'r Gymraeg ymhlith ieithoedd lleiafrifol Ewrop a gydnabyddir gan Undeb Ewrop.

[golygu] Llyfryddiaeth

[golygu] Ffynonellau a throednodion

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 John Davies, Hanes Cymru (The Penguin Press, 1990)
  2. 2.0 2.1 Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb, gol. GH Jenkins (Prifysgol Cymru, 1997)
  3. Prys Morgan, Beibl i Gymru (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988)
  4. Parhâi rhai cymunedau yn Swydd Henffordd a swyddi eraill y gororau i siarad Cymraeg am ganrifoedd eto i ddod.
  5. Yr Iaith Gymraeg Heddiw
  6. Gwefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
  7. 7.0 7.1 Iaith Carreg fy Aelwyd, gol. GH Jenkins (Prifysgol Cymru, 1998)
  8. Y tro cyntaf i'r gallu i siarad Cymraeg gael ei ofyn yn y cyfrifiad oedd yn 1891. Cyfrifiad 1911 oedd y cyntaf i roi'r niferoedd hynny fesul plwyf. Am wybodaeth am niferoedd siaradwyr Cymraeg cyn hynny yr ydym yn ddibynnol ar sylwadau ymwelwyr, dyddiaduron, gweinidogion anghydffurfiol ac offeiriadon, ac yn aml ar dystiolaethau a gyflwynwyd i gomisiynau brenhinol. Mae'r cwestiynau a ofynnir ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfrifiad hefyd wedi newid dros y blynyddoedd. Rhaid cadw hyn mewn cof wrth gymharu'r data. Yn 1971 holwyd a oedd siaradwyr Cymraeg yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg - credir bod y gostyngiad yn nifer y rhai a fedrai'r Gymraeg rhwng cyfrifiad 1961 a 1971 yn rhannol yn ganlyniad i natur y cwestiwn hwn, gan fod yn well gan rai anllythrennog ddatgan eu bod yn uniaith Saesneg na chyfaddef eu hanllythrennedd. Yn wir mae peth tystiolaeth bod natur swyddogol y Cyfrifiad yn achosi gwyrdroad yn y ffigurau, a rhai o'r Cymry Cymraeg llai rhugl yn ymatal rhag datgan unrhyw wybodaeth o'r Gymraeg. Ceir ystadegau tra gwahanol mewn gwahanol arolygon, e.e. arolwg S4C ac Arolwg Llafarlu Lleol Cymru. Gweler papur Lucy Haselden ar wefan yr Office of Statistics, 'Differences in Estimates of Welsh Language Skills' am drafodaeth o'r gwahaniaethu rhwng canlyniadau y cyfrifiad ac Arolwg Llafarlu Lleol Cymru.
  9. Cyfrifiad 2001 - Bwrdd yr Iaith Gymraeg (30 Mai 2006)
  10. Cyfieithiad yr Athro Thomas Jones yn Crwydro Sir Gár, tud 214, gan Aneirin Talfan Davies (Llyfrau'r Dryw, 1970)
  11. Ieuan Gwynedd Jones, Ar Drywydd Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (Prifysgol Cymru, 1994)
  12. Eu Hiaith a Gadwant? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif, goln R Geraint Jenkins a Mari A. Williams (Prifysgol Cymru, 2000)

[golygu] Cysylltiadau allanol

[golygu] Gweler hefyd

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Sub-domains

CDRoms - Magnatune - Librivox - Liber Liber - Encyclopaedia Britannica - Project Gutenberg - Wikipedia 2008 - Wikipedia 2007 - Wikipedia 2006 -

Other Domains

https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformtivo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com