Dafydd Gorlech
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd brudiol a flodeuai o tua 1410-1490.
Ychydig o wybodaeth sydd wedi goroesi amdano ar wahân i'r dystiolaeth sydd yn ei gerddi. Mae ei enw yn awgrymu cysylltiad ag Abergorlech, plwyf gynt yng nghwmwd Caeo yn y Cantref Mawr, Ystrad Tywi.
Canai yn fras o tua 1446 hyd at tua 1490. Saith cywydd yn unig o'i waith sydd wedi goroesi, yn cynnwys cywydd brud ar ffurf cywydd gofyn i Syr Rhosier Fychan, Iorciad dylanwadol o Dretŵr.
Mae ei ganu yn grefftus a diddorol. Mae'r ddau frud "Ymddiddan rhwng y bardd a'r Wyddfa" a "Cywydd y Gigfran" yn enghreifftiau rhagorol o'r canu brud ar ei orau. Dyma linellau agoriadol y cyntaf:
- Y Wyddfa noddfa nawddfawr,
- Hoywfalch ei phen uwch llen llawr,
- Hen addurn wyd, dëyrn ar dir,
- Orau iawndwf ar randir;
- Clo Gwynedd rhag tromwedd trin
- A'r gaer orau i'r gwerin.
[golygu] Llyfryddiaeth
Erwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth, 1997).
Beirdd yr Uchelwyr | ||
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | Dafydd Gorlech | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Hywel Cilan | Iolo Goch | Rhisiart ap Rhys | Rhys Goch Eryri | Simwnt Fychan | Tudur ap Gwyn Hagr |