Gwilym Ddu o Arfon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd a ganai yn y cyfnod yn dilyn cwymp tywysogaeth Gwynedd oedd Gwilym Ddu o Arfon (fl. 1280 - 1320). Fel ei gyfoeswr Gruffudd ap Dafydd ap Tudur mae ei waith yn rhychwantu'r cyfnod rhwng Beirdd y Tywysogion a'r Cywyddwyr ac am hynny gellid ei ystyried fel un o'r Gogynfeirdd diweddar.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei hanes
Rydym yn dibynnu ar dystiolaeth ei gerddi am wybodaeth amdano. Fel y mae ei enw yn awgrymu, roedd yn fardd o Arfon (rhan o Wynedd heddiw). Mae traddodiad lleol a gofnodir gan yr hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd) yn ei gysylltu ag ardal Glynllifon yn y cantref hwnnw. Dywed Myrddin Fardd ei fod yn byw 'mewn llecyn a adnabyddir fel Muriau Gwilym Ddu yn agos i Dyddyn Tudur, nid ymhell oddiwrth y Glyn llifon'. Ei brif noddwr oedd yr uchelwr dylanwadol o Fôn Syr Gruffudd Llwyd, un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, canghellor Llywelyn Fawr; ymddengys fod gan y bardd le anrhydeddus yn llys Syr Gruffudd yn Nhregarnedd ar yr ynys ac iddo ddioddef pan garcharwyd ei noddwr am ddwy flynedd am ei ran dybiedig yn y gwrthryfeloedd yn erbyn y Saeson ar ddechrau'r 14eg ganrif. Mae un o'i gerddi'n awgrymu iddo fynd ar bererindod i'r Tir Sanctaidd.
[golygu] Llawysgrifau
Ceir dryll o un gerdd yn llawysgrif Peniarth 20 (tua 1330), ond y brif ffynhonnell am ei gerddi yw'r testunau yn Llyfr Coch Hergest (tua 1400).
[golygu] Cerddi
Dim ond pedair cerdd o waith Gwilym Ddu sydd wedi goroesi. Mae dwy ohonyn nhw'n awdlau moliant i Syr Gruffudd Llwyd. Y fwyaf diddorol efallai yw'r farwnad i'r bardd cyfoes Trahaearn Brydydd Mawr. Ceir hefyd awdl i Iesu. Mae'r defnydd coeth o gynghanedd yn debyg i waith Beirdd y Tywysogion ond ceir elfennau personol iawn hefyd ac mae'r cyfan o ansawdd uchel iawn.
[golygu] Llyfryddiaeth
Golygir gwaith y bardd gan R. Iestyn Daniel yn:
- N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
Beirdd yr Uchelwyr | ||
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | Dafydd Gorlech | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Hywel Cilan | Iolo Goch | Rhisiart ap Rhys | Rhys Goch Eryri | Simwnt Fychan | Tudur ap Gwyn Hagr |