Hywel Cilan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd Hywel Cilan (fl. 1435 - 1470) yn fardd a ganai yn y dull traddodiadol ym Mhowys yn ail hanner y 15fed ganrif; ar sail tystiolaeth fewnol ei gerddi, credir ei fod yn frodor o Landrillo ym Meirionnydd.
Cedwir 27 o gerddi ganddo, y rhan fwyaf ohonynt yn gywyddau moliant i noddwyr ym Mhowys, yn cynnwys aelodau o deuluoedd Crogen, Maesmor, y Rug, Peniarth, y Rhiwlas, Corsygedol, Deuddwr a Moelyrch.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Islwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963). Y golygiad safonol o'i waith.
Beirdd yr Uchelwyr | ||
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | Dafydd Gorlech | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Hywel Cilan | Iolo Goch | Rhisiart ap Rhys | Rhys Goch Eryri | Simwnt Fychan | Tudur ap Gwyn Hagr |