Rhisiart ap Rhys
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd Rhisiart ap Rhys (fl. c.1495 - c.1510) yn fardd, yn enedigol o Dir Iarll ym Morgannwg, yn ôl pob tebyg.
Roedd Rhisiart yn fab i'r bardd Rhys Brydydd ac yn nai i fardd arall o Dir Iarll, Gwilym Tew (fl. c.1460 - c.1480), neu efallai'n frawd iddo.
Cedwir 36 o gerddi Rhisiart ap Rhys, y rhan fwyaf ohonyn' nhw'n gywyddau mawl a marwnad digon confensiynol, ond maen' nhw o werth hanesyddol fel y farddoniaeth gynharaf sydd ar gael i uchelwyr Morgannwg, gan gynnwys nifer sy'n disgyn o deuluoedd Normanaidd y fro.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd, 1976)
Beirdd yr Uchelwyr | ||
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | Dafydd Gorlech | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Hywel Cilan | Iolo Goch | Rhisiart ap Rhys | Rhys Goch Eryri | Simwnt Fychan | Tudur ap Gwyn Hagr |