Simwnt Fychan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Simwnt Fychan (c.1530 - 1606) yn fardd ac achyddwr o Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Roedd yn ddisgybl i'r bardd Gruffudd Hiraethog. Graddiodd yn bencerdd yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1567.
Rhoes drefn a dosbarth ar y gyfyndrefn farddol yn ei gyfrol Pum Llyfr Cerddwriaeth (c.1570), mewn cydweithrediad â Gruffudd Hiraethog. Ysgrifennod yn ogystal sawl llawysgrif ar achyddiaeth.
Fel bardd cyfansoddodd nifer o gerddi mawl a serch ar yr hen fesurau. Roedd yn hyddysg yn yr iaith Ladin hefyd a chyfieithodd rai o gerddi Martial i'r Gymraeg.
[golygu] Llyfryddiaeth
Mae gwaith barddonol Simwnt yn aros yn y llawysgrifau. Ceir manylion pellach yn:
- Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1968)
- G.J. Williams ac E.J. Jones, Gramadegau'r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934)
Beirdd yr Uchelwyr | ||
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | Dafydd Gorlech | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Hywel Cilan | Iolo Goch | Rhisiart ap Rhys | Rhys Goch Eryri | Simwnt Fychan | Tudur ap Gwyn Hagr |