Tudur ap Gwyn Hagr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Tudur ap Gwyn Hagr yn fardd a flodeuai yn ail hanner y 14eg ganrif, efallai.
Daw'r ychydig a wyddom andano o dystiolaeth y ddwy gerdd fer o'i eiddo a gedwir yn Llyfr Coch Hergest. Yn y gyntaf mae'r bardd yn dweud ei fod wedi dioddef cyni adeg y Pla Du a byw yn fain fel ei blwyfolion; gellid casglu, felly, mai offeiriad neu person plwyf ydoedd ond nid oes sicrwydd o hynny. Yn yr ail gerdd dysgwn ei fod yn ymweld â thai noddwyr yn ei ardal ac felly'n fardd proffesiynol. Mae safon y cerddi sydd wedi goroesi (dwy gyfres o englynion) yn uchel.
[golygu] Llyfryddiaeth
- R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). ISBN 0947531718
Beirdd yr Uchelwyr | ||
---|---|---|
Dafydd ap Gwilym | Dafydd Gorlech | Gruffudd ap Dafydd ap Tudur | Gruffudd Hiraethog | Guto'r Glyn | Gwilym Ddu o Arfon | Gwilym Tew | Hywel Cilan | Iolo Goch | Rhisiart ap Rhys | Rhys Goch Eryri | Simwnt Fychan | Tudur ap Gwyn Hagr |