Rhyngrwyd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn gyffredinol y Rhyngrwyd yw system o rwydweithiau cyfrifiadurol byd-eang sydd wedi eu cysylltu â'u gilydd, ac sydd hefyd ar gael i'r cyhoedd. Mae'n trosglwyddo amrywiaeth o ddata gan gynnwys lluniau, fideo a thestun, ac yn cludo amrywiaeth o wybodaeth a gwasanaethau. Trosglwyddir y data hyn gyda'r safon Internet Protocol (IP).
Y gwasanaethau mwyaf amlwg yn strwythur y Rhyngrwyd yw'r We fyd-eang (www) ac e-bost, ac hefyd gwasanaethau sgwrsio a throsglwyddo ffeiliau.
Nid yw'r Rhyngrwyd a'r We fyd-eang yn gyfystyr. Casgliad o ddogfennau hypertext yw'r we, a defnyddir y rhyngrwyd i gael mynediad i'r dogfennau hyn.
Mae angen cyfrifiadur i gysylltu â'r rhyngrwyd.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.