Castell Tinboeth
Oddi ar Wicipedia
Castell Normanaidd rhwng Y Drenewydd a Llandrindod ym Mhowys yw Castell Tinboeth. Saif ar lan Afon Ieithon tua milltir i'r gogledd o eglwys hynafol Llananno, ar fryn i'r dwyrain o lôn yr A483.
Codwyd y castell oddi mewn i fryngaer gron o Oes yr Haearn. Mae ganddo wrthglawdd o bridd a cherrig a mynedfa i'r de-ddwyrain. Defnyddid rhai o gerrig y fryngaer ar gyfer adeiladu clawdd o amgylch y castell. Mae'n enghraifft ddiweddar iawn o'r castell mwnt a beili traddodiadol. Addaswyd muriau'r fryngaer i lunio'r ward allanol (y beili). Diogelid y mwnt â llenfur o gerrif gyda phorthdy mawr yn y gornel gogledd-orllewinol trwy gatws oedd tua 8 medr sgwâr. Dim ond pentyrrau o gerrig sy'n aros o'r muriau heddiw.
Ychydig a wyddys am hanes y castell ond mae'n debyg iddo gael ei godi ar ddiwedd y 13eg ganrif gan Maud, gwraig Roger Mortimer, aelod o'r teulu Mortimer, un o deuluoedd Normanaidd grymusaf y Mers, ar ôl ei farwolaeth ym 1282.
Lleoliad map OS: SO 0901 7544.
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Moel Arthur | Mynydd Twr | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |