Pen-y-gaer
Oddi ar Wicipedia
Bryngaer o Oes yr Haearn gerllaw pentref Llanbedr-y-Cennin yn Nyffryn Conwy yw Pen-y-gaer neu Pen y Gaer.
Saif y fryngaer ar fryn ar lechweddau isaf y Carneddau, uwchben ac i'r gorllewin o'r pentref. Mae ganddi amddiffynfeydd cryfion, yn arbennig ar yr ochrau gorllewinol a deheuol, lle maent yn drifflyg. Nodwedd arbennig y fryngaer hon yw presenoldeb chevaux de frise, meini wedi ei gosod o flaen yr amddiffynfeydd yn y fath fodd ag i faglu ymosodwyr sy'n rhedeg tuag atynt.
Yr hynafiaethydd Thomas Pennant, yn ei Tour of North Wales (1773), oedd un o'r cyntaf i dynnu sylw at y fryngaer. Mae'n cofnodi mai 'Pen Caer Helen' oedd enw'r bryn yn ôl pobl lleol ac felly mai 'Caer Helen' oedd yr enw ar y gaer ei hun (cyfeiriad at Elen Luyddog, gwraig Macsen Wledig). Ond mewn llyfr diweddarach cyfeirir ati fel 'Pen Caer Llîn'. 'Pen-y-gaer' yw'r enw gan bawb bron erbyn heddiw, er y gellid dadlau mai enw'r bryn ydyw yn hytrach na'r gaer ei hun. Yn y nodiadau i gyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest o'r Mabinogion, cynigir uniaethu Pen-y-gaer â Caer Dathyl y Pedair Cainc, ond nid yw hynny'n cael ei dderbyn bellach.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
- Harold Hughes, The exploration of Pen-y-gaer above Llanbedr-y-Cenin (allbrint o Archaeologia Cambrensis, 1906). Adroddiad ar y gwaith cloddio yn y fryngaer yn 1905.
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Moel Arthur | Mynydd Twr | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |