Foel Fenlli
Oddi ar Wicipedia
Bryngaer o Oes yr Haearn a bryn 511 medr ym Mryniau Clwyd yw Foel Fenlli (weithiau Moel Fenlli). Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a Llanferres uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd.
Foel Fenlli y'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon neu lethrau uchel Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 63 erw o dir ar safle ar gopa'r bryn o'r un enw sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd. Ar gopa'r bryn ceir carnedd o Oes yr Efydd.
Mae'r enw yn ddiddorol. Daw efallai o enw'r cawr Cymreig Benlli Gawr y cyfeirir ato weithiau yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol.
Dyddia'r amddiffynwaith i'r cyfnod o'r ganrif gyntaf CC i'r 4edd ganrif OC. Lleolir y prif ammddiffynwaith ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y gaer, uwchlaw'r bwlch. Ceir mynedfa gynnar yn y gornel orllewinol ac yn diweddarach yn y gornel de-ddwyreiniol. Ceir olion cytiau crwn tu mewn i'r gaer. Darganfuwyd darnau o briddlestri gwyn a choch, haearn, saethau callestr a gwydr pan gloddiwyd y safle yn 1849. Yn 1816 cafwyd hyd i gelc o dros 1,500 o ddarnau pres Rufeinig, yn dyddio o'r cyfnod 307-360 OC yn bennaf.
[golygu] Cyfeiriadau
- Ellis Davies, Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire (1929)
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Moel Arthur | Mynydd Twr | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |