Garn Boduan
Oddi ar Wicipedia
Mae Garn Boduan yn fryn 280 medr o uchder gerllaw Nefyn ar Benrhyn Llŷn, Gwynedd. Ar ben y bryn mae bryngaer o Oes yr Haearn.
Bu cloddio ar safle Garn Boduan dros nifer a flynyddoedd, a chafwyd tystiolaeth ei bod yn cael ei defnyddio yn ystod Oes yr Haearn ac yng nghyfnod y Rhufeiniaid. O ran cynllun mae'n weddol debyg i Tre'r Ceiri gerllaw, gyda muriau cerrig yn amgylchynu arwynebedd o tua 10 hectar. Tu mewn i'r muriau mae gweddillion o leiaf 170 o dai crwn. Ar yr ochr ddwyreiniol mae caer fechan a allai fod yn ddiweddarach o ran dyddiad.
Gellir cyrraedd Garn Boduan trwy ddilyn llwybr oddi ar y B4354, rhyw 300 medr o'r briffordd A497.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Moel Arthur | Mynydd Twr | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |