Moel Arthur
Oddi ar Wicipedia
Bryn a bryngaer ym Mryniau Clwyd, Sir Ddinbych, yw Moel Arthur (cyfeirnod OS: 145 660). Fe'i lleolir rhwng Llandyrnog (ger Dinbych) i'r gorllewin a Nannerch i'r dwyrain. I'r gogledd mae copa Pen y Cloddiau.
Ar ben y bryn ceir bryngaer gron sylweddol o tua 2 hectar gyda mynediad iddi ar yr ochr ddwyreiniol. Mae'r muriau amddiffynnol yn troi i mewn ar eu hunain yn y fynedfa a cheir olion sy'n awgrymu dwy siambr warchod. Mae'r gwaith amddiffynol yn drawiadol, gyda chyfres o gloddiau syrth a ffosydd oddi amgylch pen y bryn. Y tu mewn i'r cyfan, yn arbennig ar yr ochr ddwyreiniol, ger y fynedfa, ceir sawl platfform lle ceid tai crwn o waith pren ar un adeg, yn ôl pob tebyg.
Ymddengys fod Moel Arthur yn fryngaer gymharol gynnar, o ddechrau Oes yr Haearn. Mae'n gorwedd yn nhiriogaeth llwyth y Deceangli.
Gellir cyrraedd y gaer trwy ddilyn y lôn fynydd sy'n dringo o Landyrnog trwy bentref bach Llangwyfan i gyfeiriad Nannerch. Mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg yn agos i'r safle hefyd.
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Moel Arthur | Mynydd Twr | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |