Darowen
Oddi ar Wicipedia
Pentref chwe milltir i'r gogledd ddwyrain o dref Machynlleth yn yr hen Sir Drefaldwyn, Powys, yw Darowen (neu Dar Owain mewn hen ysgrifau). Yn ôl cyfrifiad 1861 roedd poblogaeth o 1227 ym mhlwyf Darowen, a oedd yn ffinio i'r gogledd-ddwyrain ag Afon Twymyn ac yn y gogledd ag Afon Dyfi. Roedd Darowen yn enwog am ei fwyn ar un adeg. Codwyd llawer o blwm yn yr ardal o bryd i'w gilydd, yn enwedig ym Mwynglawdd Esgair Galed, y Cwm Bychan a Chwm Nant Ddu. Y gweithiau mwyn hyn, a'r gweithiau plwm yn Nylife gynt sydd i gyfrif am boblogaeth ac arwyddocâd y pentref ar y pryd, a thybir mai Derw Owain neu Tref Owain oedd yr enw gwreiddiol. Erbyn hyn, pentref bychan ydyw a'i boblogaeth yn bitw.
[golygu] Eglwys y plwyf
Mae'r eglwys yn y pentref wedi ei chysegru i Tudur, sant o ddiwedd y 6ed ganrif. Dywedir yn Achau Saint Prydain, fod Tudur, fab Arwystli Gloff ab Seithenyn, wedi ei gladdu yma. Yn sicr, mae ffurf y fynwent yn awgrymu bod yr eglwys wreiddiol yn tarddu o'r Oesoedd Canol cynnar. Cynhelir ei ŵyl ar y 25ain o Hydref, neu'r Sabath cyntaf wedi hynny. Ynghlwm â'r ŵyl, roedd defod neilltuol, a elwir "Curo Tudur". Arferai bechgyn yr ardal gario postyn, neu gangen ar eu hysgwyddau, tra fyddai trigolion yr ardal yn eu curo â phastynau, er cof, mae'n debyg, am yr erlidigaeth a ddioddefodd y sant.
Sefydlwyd yr eglwys gan yr Esgob [[Robert Warton, yn y flwyddyn 1545, ar gais y rheithor Rhisiard ap Gruffydd. Arferai'r eglwys fod yn rhan o esgobaeth Llanelwy, ond yn 1859 newidiwyd hi i fod dan esgobaeth Bangor. Ymhlith periglorion y plwyf, ceir enwau amryw o ddynion a gafodd enwogrwydd yn yr eglwys, a'r byd llenyddol. Un o'r rhain oedd Dr. John Davies, Mallwyd a fu'n beriglor y plwyf yn 1615. Roedd yn awdur ar amryw weithiau, yn eu plith, ei Eiriadur Cymraeg a Lladin a'i Ramadeg Cymraeg, ac yn un o gyfieithwyr y Beibl i'r iaith Gymraeg. Daliwyd y reithoriaeth wedi hynny, gan Dr. Randolph, Esgob Rhydychain, a ddyrchafwyd oddi yno i fod yn Esgob Llundain.
Tua 1862-1864, tynwyd hen lan y plwyf i lawr, am fod yr hon a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, wedi mynd mor adfeiliedig mewn blynyddoedd diweddar fel nad oedd hi'n saff mynd mewn iddi. Codwyd eglwys newydd ar bron yr un safle, yn ôl cynlluniad y penseiri J.W. Poundley a D. Walker o Lerpwl, ar draul o 667p, ac ynddi le i 202 o bobl i eistedd.
Ym mynwent yr eglwys, mae beddfaen sgwâr; wedi cerfio ar un ochr iddi, mae yna goffadwriaeth am y Parchedig Thomas Richards, a fu'n ficer y plwyf am 37 o flynyddoedd, ac a fu farw yn 1837 yn 83 mlwydd oed. Ar ochr arall, y mae coffadwriaeth am ei wraig, a fu farw yn 1841, yn 84 mlwydd oed. Ac ar yr ochr arall, mae'r coffâd canlynol am eu plant,-“Bu iddynt wyth o blant, Richard, Ficer Meifod; David, Ficer Llansilin; Thomas, Rheithor Llangyniew; Mary; John Lloyd, C.P. Llanwddyn; Jane; Elizabeth; a Lewis, Rheithor Llanerfyl; y rhai a gyfodasant y maen hwn, er cof am eu rhïeni hybarch.”
Mae cofnodion bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau'r eglwys yn dyddio nol i 1633, a'r cwpan cymun yn yr eglwys, sydd dal ar ddefnydd, i 1575. Ceir cofnod yn un o'r Registers, yn ddyddiedig i 1635, fel a ganlyn; “adeiladwyd ficerdy Darowain, gan yr Esgob Robert (Warton), ar ddymuniad Richard ap Griffith, y Rector; yn y flwyddyn 1545.” Tynnwyd yr hen ficerdy hwn i lawr ym 1849, ac fe adeiladwyd yr un newydd presennol am y swm o 570p.
[golygu] Meini hirion
Yn ôl traddodiad, galwyd Darowen hefyd, yn Trefddegwm y Noddfa, a'r rheswm am hyn yw fod yr eglwys yn sefyll o fewn trefgordd Noddfa, a fod y “noddfa” yn ddiogelwch i ryw fath o ddrwgweithredwyr yn erbyn cyfreithiau'r wlad. Nodir terfynau'r “noddfa” yn dair ochrog, gan y tri maen hir, dwy ohonynt, sydd dal i'w gweld yn sefyll heddiw; un yn Rhosdyrnog, sydd yn mesur chwe troedfedd o uchder wrth bedair ar ddeg o amgylchedd; y llall ar y Cefn Coch Uchaf, yn mesur pum troedfedd o uchder wrth bymtheg o amgylch; a'r trydydd yng Ngwmbychan Mawr. Gelwir y garreg yng Nghwmbychan Mawr yn Carreg Noddfa. Yr oedd y garreg hon ar un adeg yn faen o gryn faint, ond gwnaethpwyd difrod iddi er mwyn yr elw o gael y deunyddiau i adeiladu; a dim ond pedwar darn ohoni sydd bellach yn aros.
Roedd pellter pob carreg oddeutu milltir o'r eglwys, ac unrhyw un a allai ddianc tu mewn i'r terfynau hyn, cyn i'r erlynydd eu dal yr oedd yn ddiogel rhag cosb. Saif y tri maen hyn yn agos i'r hen bryffyrdd a arweiniau i'r Llan; un o gyfeiriad Llanbrynmair, un arall o Bontdolgadfan, a'r llall o Abercegir. Yn agos i Bengraig, fferm yn y pentref, mae yno lannerch a elwir “Pant y Noddfa”. Mae yno le hefyd a elwir “Bryn y Crogwr,” lle, medd traddodiad, y byddent yn crogi drwgweithredwyr, ynghyd a'r rhai nad oedd â hawl noddfa oherwydd eu trosedd. Ychydig o lefydd a gafodd y fraint o gael “noddfa” gan y Tywosogion, ond cwtogwyd breintiau y noddfeydd hyn, gan gyfreithiau a basiwyd yn amser Harri VIII, ac yn ystod teyrnasiad Iago'r Cyntaf, dilewyd y breintiau hynny'n llwyr.
[golygu] Olion hynafol eraill
Tua hanner milltir i'r gorllewin o'r eglwys, ar ben bryn y Fron Goch, yn maenol Noddfa, mae olion hen wersyllfa; ac ar ben un arall, a elwir Bwlch Gelli Las, mae crug, neu garnedd, yn agos i dir y Berllan Deg, ble darganfuwyd hen arfau rhyfel o brês, yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf. Yn agos i Bwlch Gelli Las, ar dir Cefncoch, mae olion tomen, un o gladdfeydd cynfrodorion y wlad. Mae bellach wedi ei chwalu o fewn tair troedfedd i wyneb y ddaear; a'i thraws fesur yn bymtheg a'r hugain o droedfeddi.
Ar Penfrongoch mae olion amddiffynfa, yn mesur oddeutu dau gant ac ugain llath o hyd; a chant a deg llath o led; ac o'i amgylch, mae amryw ffosydd. Ar dir y Castell, mae hen amddiffynfa; ac mae'r enw yn awgrymu hyn. Mae'n debyg fod rhyw fath o furiau cerrig wedi bod o'i hamgylch, a chludwyd llawer ohonynt, i adeiladau y tŷ ffarm a'r adeiladau allan. Y mae un ystafell o'r Castell, hon y gellid ei olrhain, yn mesur tair troedfedd ar ddeg o hyd, wrth saith ar hugain o led. Gerllaw amaethdy y “Caerseddfan,” yr hwn a arwydda gorsedd fan, neu lŷs, mae ar y bryn, gaer, a elwir wrth yr enw Caerseddfan. Dywedir mai yma y byddai llŷs yn ymgynnull, ar wahanol amserau, i derfynu dadleuon, ac i roi barn a dedfryd.
Bryngaerau Cymru | |
---|---|
Braich-y-Dinas | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Seion | Carn Fadryn | Castell Degannwy | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Tinboeth | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Powys | Dinorben | Dinorwig | Foel Fenlli | Ffridd Faldwyn | Garn Boduan | Moel Arthur | Mynydd Twr | Pen Dinas | Pen-y-gaer | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm |