Yr Hengerdd
Oddi ar Wicipedia
Erthyglau ynglŷn â Llenyddiaeth Gymraeg |
Cyfnodau |
Canu cynnar · Oesoedd Canol |
Barddoniaeth a drama |
Yr Hengerdd · Canu'r Bwlch |
Rhyddiaith |
Rhyddiaith Cymraeg Canol |
Erthyglau eraill |
Llawysgrifau · Llên gwerin |
Yr Hengerdd yw'r enw a roddir ar y canu cynharaf yn Gymraeg. Mae enwau'r beirdd cynharaf sy'n hysbys yn cynnwys Aneirin, Taliesin, Cian, Talhaearn Tad Awen a Blwchfardd. Dim ond gwaith Aneirin a Thaliesin sydd ar glawr heddiw. Gelwir gwaith y beirdd hyn yn Hengerdd (mae rhai ysgolheigion yn arfer cynnwys rhan o Ganu'r Bwlch yn y dosbarth hwn yn ogystal). Dyma'r canu cynharaf yn Gymraeg sydd wedi goroesi.
Canai Aneirin a Thaliesin i arweinwyr y Brythoniaid yng Nghymru a'r Hen Ogledd yn y 6ed ganrif. Canu arwrol ydyw; cerddi sy'n dathlu bywyd a marwolaeth arwyr o ryfelwyr ac yn canu clodydd brenhinoedd hael fel Urien Rheged (prif noddwr Taliesin) a Mynyddog Mwynfawr (noddwr Aneirin). Mae gwreiddiau'r canu hwnnw'n hen iawn ac yn tarddu o gyfnod y Celtiaid. Er iddo addasu a newid gyda threigliad amser, parheai'r canu arwrol i fod yn elfen amlwg iawn yng ngwaith y beirdd Cymraeg hyd gyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Canu Aneirin
Bardd a flodeuodd yn y 6ed ganrif oedd Aneirin. Priodolir y gerdd arwrol hir 'Y Gododdin' iddo. Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. aneirin ae cant ("Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd"). Mae'r gerdd yn coffhau arwyr hen deyrnas Manaw Gododdin, oedd a'i phrifddinas yng Nghaeredin. Gelwir y gerdd a darnau eraill o farddoniaeth yn Llyfr Aneirin a briodolir i'r bardd yn Canu Aneirin.
[golygu] Canu Taliesin
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Llyfryddiaeth
- Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), Astudiaethau ar yr Hengerdd (Caerdydd, 1978)
- Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1938; argraffiad newydd 1961)
- Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |
Bonedd Gwŷr y Gogledd • Brynaich • Brythoniaid • Deifr • Y Gododdin • Yr Hengerdd • Llyfr Aneirin • Pictiaid • Trioedd Ynys Prydain • Ymddiddan Myrddin a Thaliesin • |