Hwngari
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: Isten, áldd meg a magyart (Cymraeg: Duw, bendithio'r Hwngarwyr) |
|||||
Prifddinas | Budapest | ||||
Dinas fwyaf | Budapest | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Hwngareg | ||||
Llywodraeth
• Arlywydd
• Prif Weinidog |
Gweriniaeth László Sólyom Ferenc Gyurcsány |
||||
Annibyniaeth • Tywysogaeth Hwngari • Teyrnas Hwngari • Dissolution of Awstria-Hwngari |
896 Rhagfyr 1000 1918 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
93,030 km² (109fed) 0.74 |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2006 - cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
10,076,581 (79fed) 10,198,315 109/km² (92fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2005 $169.875 biliwn (48fed) $17,405 (40fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.869 (uchel) – 35fed | ||||
Arian breiniol | Forint (HUF ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .hu1 | ||||
Côd ffôn | +36 |
||||
1 hefyd .eu |
Gweriniaeth yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Hwngari neu Hwngari. Gwledydd cyfagos yw Awstria, Slofacia, Wcráin, Romania, Serbia, Croatia a Slofenia. Mae'r Hwngariaid yn galw eu hunain yn Magyar (Magyarország).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Llwyth y Magyar a ymsefydlodd Hwngari fel gwlad a chenedl yn y 9fed ganrif. Roedd yn rhan o'r Ymerodaeth Lân Rufeinig yng Nghanolbarth Ewrop. Yn 1919 ffurfiwyd Gweriniaeth Sofietaidd Hwngari, a'i harweinydd oedd Béla Kun. Ond byr fu ei pharhad oherwydd trechodd lluoedd arfog România y weriniaeth Sofietaidd yn 1919 a newidiwyd y llywodraeth. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd ac yn gynghreiriad i'r Almaen. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymwahanodd Awstria a Hwngari i fod yn wledydd annibynnol. Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Hwngari yn gynghreiriad i'r Almaen unwaith yn rhagor a'r Natsiaid a reolai'r wlad.
Ar ôl y rhyfel collodd Hwngari y diriogaeth ychwanegol a roddwyd iddi gan yr Almaen. Yn 1949 troes Hwngari yn weriniaeth ddemocrataidd gyda llywodraeth gomiwnyddol. Yn 1956, bu gwrthryfel mawr yn erbyn comiwnyddiaeth ond ymyrodd yr Undeb Sofietaidd gyda tanciau. Roedd hi dan gomiwnyddiaeth rhwng 1945 - 1989. Roedd Hwngari yn aelod o Gytundeb Warsaw o'r 1950au hyd y 1990au.
Heddiw mae hi'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd a pleidleisiodd o blaidCyfansoddiad Ewrop yn 2005/2006.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Llywydd Hwngari yw arweinydd y wlad a'r Prif Weinidog sy'n arwain Senedd Hwngari ym Mwdapest.
[golygu] Siroedd Hwngari
[golygu] Hwngari hoyw - Magyar Meleg
Mae gan Hwngari sin hoyw cynhenid, gellir clywed actiau drag ar lwyfan yn canu a pherfformio yn hwngareg yn lle y trosleisio caneuon Saesneg a geir yn aml dros Ewrop. Sin hoyw ar gyfer Hwngariaid ydyw, dim fel ym Mhrag lle mae'r diwidiant rhyw yn dominyddu. Cenedl bron di Saesneg yw Hwngari o hyd, a di Almaeneg. Dan y sofietwyr roedd hi'n fraint i bob plentyn methu ei gwrs Rwsieg yn llwyr.
Fel ni yng Nghymru maent yn genedl styfnig, dawel a rhesymol fydd yn oroesi globaleiddio!
[golygu] Hwngari mewn 10 pwynt
1. Prifddinas: Budapest 2. Poblogaeth: 10.2 million 3. Proffil ethnig: Hwngariaid (96.6%) - 13 lleiafrif a gydnabyddir ac a gofrestrwyd yn swyddogol: Almaenwyr, Sipsiwn, Croatiaid, Slofaciaid, Romaniaid, Bwlgariaid, Groegwyr, Pwyliaid, Armeniaid, Rutheniaid, Serbiaid, Iwcraniaid, Slofeniaid - a ddiogelir yn arbennig yn y Cyfansoddiad - fel cydran o wladwriaeth Hwngari; hawl i gynrychiolaeth yn y Senedd wedi ei goleddu yn y Cyfansoddiad ac yn Neddf Lleiafrifoedd 1993. 4. Ffinio gyda: Awstria, Slofacia, Iwcrain, Romania, cyn Iwgoslafia, Croatia, Slofenia 5. Prif iaith: Hwngareg ac Almaeneg 6. Arian: Forint 7. Danteithfwyd lleol: Halaszle (cawl pysgod), goulash, jokai bableves (cawl ffa) and hideg gyumolcsleves (cawl ceirios oer). Cwrw da a brandi cryf. 8. Proffil o'r wlad: Mae Hwngari yn wlad heb arfordir yng nghanol Ewrop. Mae Slofacia i'r gogledd; Iwcrain i'r gogledd-ddwyrain; Romania i'r dwyrain; Serbia, Croatia a Slofenia i'r de; ac Awstria i'r gorllewin. Mae Hwngari yn wastad gan bennaf. Mae'r Afon Danube yn ffurfio rhan o ffin gogledd-orllewinol Hwngari gyda Slofacia, ac yna'n llifo i'r de drwy Budapest, gan rannu Hwngari yn ddau ranbarth cyffredinol. Ym mis Hydref 2001 cafodd pont olaf y Danube a ddinistriwyd yn yr Ail Ryfel Byd ei hailagor gan Brif Weinidog Slofacia a Phrif Weinidog Hwngari a'r Comisiynydd Ewropeaidd Verheugen. Cydariannwyd ailgodi'r bont gan raglen Phare yr UE gyda ?10 miliwn. Budapest, y ddinas fwyaf yw'r brifddinas a hefyd yn ganolfan ddiwylliannol, economaidd a ddiwydiannol Hwngari. Mae'r wlad yn llawn trefi baroque hardd, adeiladau canoloesol, ffynhonnau thermol a thros fil o lynnoedd. Mae gan Hwngari aeafau oer iawn a hafau cynnes iawn, gyda gwanwyn a hydref mwyn. 9. Diwylliant: Hwngari oedd mamwlad Franz Liszt, Béla Bartók a Zoltán Kodály, a ysbrydolwyd gan y traddodiadau gwerin cenedlaethol cyfoethog. Yn y 19eg ganrif cynhyrchodd Hwngari ei gyfansoddwr brodorol pwysig cyntaf, Ferenc Erkel, a gyfansoddodd anthem genedlaethol Hwngari a'r opera Hwngaraidd gyntaf. Mae Hwngari yn wlad gerddorol iawn; mae ei chwaraewyr fiolin a phiano yn adnabyddus yn fyd-eang. Mae gan Hwngari mwy na 5000 o lyfrgelloedd cyhoeddus a mwy na 100 o amgueddfeydd cyhoeddus ledled y wlad. 10. Wyddech chi: Dyn o Hwngari oedd Mr Biro, dyfeisydd y ysgrifbin. Parc Cenedlaethol Hortobagy yw mecca adara Ewrop a'r lle i ganfod Ceiliog y Waun - un o adar mwyaf y byd. Siroedd Hwngari a'u prifddinasoedd
- Bács-Kiskun (Kecskemét)
- Baranya (Pécs)
- Békés (Békéscsaba)
- Borsod-Abaúj-Zemplén (Miskolc)
- Csongrád (Szeged)
- Fejér (Székesfehérvár)
- Győr-Moson-Sopron (Győr)
- Hajdú-Bihar (Debrecen)
- Heves (Eger)
- Jász-Nagykun-Szolnok (Szolnok)
- Komárom-Esztergom (Tatabánya)
- Nógrád (Salgótarján)
- Pest (Budapest)
- Somogy (Kaposvár)
- Szabolcs-Szatmár-Bereg (Nyíregyháza)
- Tolna (Szekszárd)
- Vas (Szombathely)
- Veszprém (Veszprém)
- Zala (Zalaegerszeg)
Siroedd Trefol
- Békéscsaba
- Debrecen
- Dunaújváros
- Eger
- Győr
- Hódmezővásárhely
- Kaposvár
- Kecskemét
- Miskolc
- Nagykanizsa
- Nyíregyháza
- Pécs
- Salgótarján
- Sopron
- Szeged
- Székesfehérvár
- Szekszárd
- Szolnok
- Szombathely
- Tatabánya
- Veszprém
- Zalaegerszeg
[golygu] Cysylltiad allanol
- (Hwngareg) Llywodraeth Hwngari
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd |
![]() |
---|---|
Yr Almaen | Awstria | Gwlad Belg | Bwlgaria | Cyprus | Denmarc | Yr Eidal | Estonia | Y Ffindir | Ffrainc | Gwlad Groeg | Hwngari | Yr Iseldiroedd | Gweriniaeth Iwerddon | Latfia | Lithwania | Lwcsembwrg | Malta | Portiwgal | Gwlad Pwyl | Rwmania | Sbaen | Slofacia | Slofenia | Sweden | Y Weriniaeth Tsiec | Y Deyrnas Unedig |
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO) | ![]() |
---|---|
Yr Almaen | Bwlgaria | Canada | Denmarc | DU | Yr Eidal | Estonia | Ffrainc | Gwlad Groeg | Y Weriniaeth Tsiec | Gwlad Belg | Gwlad yr Iâ | Gwlad Pwyl | Hwngari | Yr Iseldiroedd | Latfia | Lithwania | Lwcsembwrg | Norwy | Portiwgal | Rwmania | Slofacia | Slofenia | Sbaen | Twrci | UDA |