Y Groesgad Gyntaf
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ymladdwyd y Groesgad Gyntaf o'r flwyddyn 1095 hyd 1099. Fe'i lawnsiwyd dan oruchwyliaeth a nawdd y Babaeth.
Arweiniodd Pedr y Meudwy fyddin yn erbyn lluoedd Kilij Arslan, swltan Nisé, ond fe'i trechwyd ganddo. Y flwyddyn ganlynol cipiodd y Croesgadwyr Nisé a threchwyd Kilij ym mrwydr Dorylé. Roedd 1098 yn flwyddyn gofiadwy i'r goresgynwyr; cipiwyd Edessa ac Antioch a chreuwyd taleithiau Croesgadwrol ynddynt a chafodd byddin Mwslemaidd dan arweinyddiaeth Karbouka o ddinas Mosul ei threchu. Yn 1099 cipiwyd Caersalem a Thripoli. Yn y Ddinas Sanctaidd ei hun coronwyd y fuddugoliaeth â chyflafan ddychrynllydd ar y trigolion, yn Iddewon, Cristnogion Uniongred a Mwslemiaid yn ddi-wahân.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.