Abererch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Abererch yn bentref at Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, rhyw 2 km i'r dwyrain o dref Pwllheli.
Saif y pentref ar Afon Erch ychydig cyn iddi gyrraedd y môr, a rhyw fymryn i'r gogledd o'r briffordd [[A497]. Afon Erch yw ffin orllewinol Eifionydd, ac ystyrir y pentref yn rhan o'r ardal yma. Mae gan Abererch orsaf reilffordd, ond mae dipyn i'r de-ddwyrain o'r pentref ei hun, ger Morfa Abererch. Yma ceir tua tair milltir o draeth tywodlyd, yn ymestyn i'r dwyrain hyd at Benychain a gwersyll gwyliau Butlins. I'r gogledd-ddwyrain mae hen blasdy Penarth Fawr.