Pwllheli
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pwllheli Gwynedd |
|
Mae Pwllheli yn dref hynafol ar arfordir deheuol Llŷn yng Ngwynedd, Cymru, sy'n dyddio'n ôl i'r canol oesoedd. Roedd y porthladd yn bwysig i'r dref ar hyd y canrifoedd. Roedd yno ddiwydiant adeiladu llongau llewyrchus yn y bedwaredd ganrif a'r bymtheg. Tyfodd i fod yn dref marchnad i Lŷn gyfan, fel y tystia'r safle a adwaenir fel 'Y Maes' lle y cynhelid y ffeiriau, a 'Stryd Moch'.
Yn ôl Cyfrifiad 2001 mae Pwllheli yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, gyda 80% o'r boblogaeth yn medru'r iaith. Yn yr oedranau 10-14 mae'r canran uchaf o bobol sydd yn gwybod yr iaith - 94%.
Daeth y rheilffordd i Bwllheli yn 1867 gan ei chysylltu ag Aberystwyth a Chaernarfon.
Ger Pwllheli, yn ymyl Penrhos, mae Penyberth, safle'r ysgol fomio a losgwyd mewn protest yn erbyn militariaeth gan Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine yn 1936.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ym 1925 a 1955. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1955
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.