Frongoch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Frongoch yn bentref bychan ychydig i'r gogledd o'r Bala yng Ngwynedd, lle mae ffordd y B4501 yn gadael y briffordd A4212 i Drawsfynydd. Saif ar Afon Tryweryn.
Yr oedd Frongoch yn safle Gwersyll Carchar Frongoch, unwaith yn hen ddistylldy chwisgi. Defnyddid y gwersyll i garcharu caracharorion Almaenaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yna wedi Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon yn 1916 defnyddiwyd ef i garcharu tua 1,800 o'r gwrthryfelwyr. Yn eu plith yr oedd Michael Collins, Arthur Griffith, Dick Mulcahy, Tomás MacCurtain, Terence MacSwiney a Seán T. O'Kelly. Gelwid Frongoch yn ollscoil na réabhlóide (ysgol y chwyldro).