Cefnddwysarn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Cefnddwysarn (neu Cefn-ddwysarn), yn ardal Y Sarnau, yn bentref bychan ar yr A494 ryw dair milltir i'r dwyrain o'r Bala yn yr hen Sir Feirionnydd (Gwynedd). Mae pentref bychan Y Sarnau ei hun ar y ffordd i Langollen cwta tri chwarter milltir i'r dwyrain.
Rhwng y ddau bentref mae Cors y Sarnau. I'r gogledd mae bryn Cefn Caer-Euni â'i fryngaer fechan Caer Euni (neu Eini). I'r gorllewin mae tref Y Bala a Llyn Tegid ac ar orwel y dwyrain rhed llethrau cadarn Y Berwyn. Mae twmpath - safle castell pren efallai - ar ymyl Cefnddwysarn i'r de.
[golygu] Enwogion y fro
Mae gan yr ardal hon le arbennig yn niwylliant Cymru. Er nad yw'n fawr o le mae wedi magu sawl person enwog.
Yno yn 1859 ar fferm y Cynlas y ganwyd Thomas Edward Ellis (Tom Ellis), un o wleidyddion disgleiriaf ei ddydd ac aelod blaenllaw o'r Rhyddfrydwyr a mudiad Cymru Fydd. Cafodd ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Dadorchuddiwyd y goflech iddo sydd i'w gweld yn yr eglwys heddiw gan Lloyd George yn 1910.
Bu'r bardd Robert Williams Parry yn brifathro ysgol Y Sarnau am flwyddyn yn y 1910au cynnar.
Un o enwogion eraill y fro yw Llwyd o'r Bryn, a aned ar fferm rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel yn 1888. Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddigrifiadau ac atgofion o'r fro a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.
Brodor arall o ardal y Sarnau yw'r prifardd Gerallt Lloyd Owen. Mae rhai o'i gerddi gorau'n ymwneud â chymeriadau a thirlun y fro.
[golygu] Darllen pellach
- T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (1954)
- Llwyd o'r Bryn, Y Pethe (1955)