Aberllefenni
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Aberllefenni yn bentref yn ne Gwynedd, yn nyffryn Afon Dulas ac ar y ffordd gefn sy'n gadael y briffordd A487 ym mhentref Corris. Mae'r ffordd yma yn arwain tua'r gogledd-ddwyrain i Aberllefenni, yna'n troi tua'r dwyrain i Aberangell.
Ar un adeg yr oedd y diwydiant llechi yn bwysgig iawn yma, ac y mae olion hen chwareli o gwmpas y pentref. Yr oedd chwareli Foel Grochan, Hen Chwarel a Ceunant Ddu gyda'i gilydd yn ffurfio Chwarel Lechi Aberllefenni. Roedd Rheilffordd Corris yn gorffen yn Aberllefenni, ac yn cario llechi i Fachynlleth. Cysylltid y chwareli mwyaf pellennig a'r rheilffordd gan Dramffordd Ratgoed.
Credir fod y ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd trwy'r pentref, ac efallai fod yr enw Pensarn am deras o dai yma yn cyfeirio ati. (head of the causeway) may be a reference to it. Ar un adeg gelwid Llyn Cob yn "Llyn Owain Lawgoch", er nad oes cofnod hanesyddol o Owain Lawgoch yn yr ardal yma. Ymhlith yr adeiladau diddorol mae Plas Aberllefenni. Yr oedd rhannau o hwn wedi eu hadeiladu yn y Canol Oesoedd, ond tynnwyd y rhan yma i lawr yn y 1960au, a dim ond rhannau mwy diweddar a gadwyd.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- LLuniau o Chwarel Lechi Aberllefenni, o Casglu'r Tlysau
- Taith yn dilyn Tramffordd Ratgoed o Aberllefenni (Dogfen pdf gan Gyngor Gwynedd)