Abercraf
Oddi ar Wicipedia
Abercraf Powys |
|
Pentref bach yn ne-orllewin Brycheiniog, Powys yw Abercraf. Yng Nghwm Tawe Uchaf y mae'r pentref, ac mae'n ymestyn i gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae heol yr A4067 o Abertawe i Aberhonddu yn mynd heibio i'r pentref.
Fel y rhan fwyaf o gymoedd y de, roedd nifer o weithfeydd glo yn yr ardal, sef y Lefel Fawr, International (Candy) a Glofa Abercraf, ond cawsant eu cau yn y chwedegau.
Mae'r pentref ar ymyl mynydd Cribarth. Mae'r mynydd yn atgoffa rhywun o siâp dyn yn gorwedd i lawr, felly mae'r bobl leol yn galw 'Y Cawr Cwsg' arno. Y lle gorau i wylio'r olygfa wych hon ydy Caerlan, filltir i lawr y cwm tuag at Ystradgynlais.
[golygu] Clwb Rygbi Abercraf
Mae clwb rygbi Abercraf RFC yn chwarae yng Nghae Plas-y-Ddol yn y pentref. Cyn-chwaraewr enwocaf y clwb o bosibl yw'r prop pen tyn rhyngwladol Adam R. Jones.