Carno
Oddi ar Wicipedia
Pentref ym Mhowys yw Carno. Saif ar y briffordd A470 rhwng Llanbrynmair a Caersws. Mae Afon Carno yn llifo gerllaw'r pentref.
Daeth Carno yn enwog fel canolfan busnes Laura Ashley am rai blynyddoedd. Yn wreiddiol roedd y ffatri yn y ganolfan gymdeithasol yma, ond yn 1967 symudodd i'r hen orsaf reilffordd. Yn ddiweddarach, symudwyd y rhan fwyaf o'r swyddi i'r Drenewydd, a chaewyd y ffatri yng Ngharno yn 2005. Mae Laura Ashley wedi ei chladdu ym mynwent yr eglwys.