Aberhosan
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yng ngogledd Powys yw Aberhosan. Fe'i lleolir mewn cwm diarffordd 6 milltir i'r dwyrain o Fachynlleth lle rhed Nant Cymau i lawr o'r bryniau i ymuno ag Afon Carrog, sydd yn ei thro yn ymuno ag Afon Dulas yn is i lawr y cwm.