Merthyr Cynog
Oddi ar Wicipedia
Pentref gwledig a phlwyf ym Mrycheiniog, de Powys, y Merthyr Cynog. Mae'n gorwedd ar lethrau deheuol Mynydd Epynt rhwng afonydd Ysgir Fawr ac Ysgir Fechan, ffrydiau sy'n ymuno yn nes i lawr i ffurfio afon Ysgir, un o ledneintiau afon Wysg.
Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, 6 milltir i'r de-ddwyrain. Y pentref cyfagos yw Llanfihangel Nant Brân, dros y bryn i'r gorllewin, a'r Capel Uchaf i'r gogledd-ddwyrain.
Ystyr y gair merthyr yma yw "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)." Cysylltir y plwyf a Sant Cynog, un o feibion Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Yn ôl traddodiad, lladdwyd Cynog gerllaw a chodwyd eglwys ar ei fedd. Ymhlith y lleoedd eraill a gysylltir â'r sant ceir Defynnog, tua 5 milltir i'r de-orllewin, ger Pontsenni.