Pont Llogel
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ym Maldwyn, Powys, yw Pont Llogel. Gorwedd ar lannau afon Efyrnwy tua hanner ffordd rhwng Llanwddyn ac Abertridwr i'r gogledd a phentref Dolanog i'r de-ddwyrain.
Mae'r lôn B4395 yn rhedeg trwy'r pentref ac yn ei gysylltu â Llangadfan i'r de a Llanfihangel-yng-Ngwynfa i'r gogledd.
Tua milltir i'r gogledd-orllewin ceir cyfres o hen garneddi a elwir yn Feddau'r Cewri.
Rhed Llwybr Glyndŵr heibio i'r pentref.