Penegoes
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn ardal Maldwyn, gogledd-orllewin Powys, yw Penegoes. Gorwedd ar yr A489 ar y ffordd i Fallwyd tua 2 filltir i'r dwyrain o dref Machynlleth, ar lan Afon Dyfi.
Rhed ffordd gul i fyny o'r pentref i Aberhosan a chyfeiriad Pumlumon i'r dwyrain. Ceir nifer o goedwigoedd yn y bryniau o gwmpas y pentref.
Ganed yr arlunydd enwog Richard Wilson (1 Awst, 1714 - 15 Mai, 1782) yn rheithordy Penegoes ar 1 Awst, 1714. Roedd ei dad John Wilson yn rheithor y plwyf.