Capel Uchaf
Oddi ar Wicipedia
Pentref gwledig ym Mrycheiniog, de Powys, yw Capel Uchaf. Mae'n gorwedd wrth lethrau deheuol Mynydd Epynt ar lan afon Honddu, un o ledneintiau pwysicaf afon Wysg.
Lleolir y pentref ar bwys lôn wledig sy'n dringo i gyfeiriad Epynt o Aberhonddu, tua 7 milltir i'r de. Fymryn i'r gogledd o'r pentref mae'r lôn yn fforcio, gydag un ffordd yn mynd i lawr i'r A483 ger Llangamarch a'r brif lôn yn mynd yn ei blaen i Llanfair-ym-Muallt. Y pentrefi cyfagos yw Merthyr Cynog, a gysylltir â'r pentref gan lôn sy'n dringo dros y bryn i'r gorllewin, a Chastell Madog, Capel Isaf, Pwllgloyw, a Llandefaelog Fach i'r de, ar y lôn i Aberhonddu. I'r gogledd ceir Pentref Dolau Honddu.