Brynaich
Oddi ar Wicipedia
Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ne-ddwyrain yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Brynaich neu Bryneich (Saesneg: Bernicia). Sefydlwyd y deyrnas gan yr Eingl yn y 6ed ganrif, ond efallai fod teyrnas Frythonig o'r enw Brynaich wedi bodoli yn flaenorol.
Roedd tiriogaeth Brynaich yn ymestyn o Afon Forth i Afon Tees; mewn termau modern roedd yn cyfateb i Northumberland, Swydd Durham, Swydd Berwick a Dwyrain Lothian. Cyn sefydlu'r deyrnas Eingl, roedd y tiriogaethau hyn yn rhan ddeheuol teyrnas Gododdin. Efallai mai ei phrifddinas oedd Bamburgh, a elwid yn Din Guardi yn yr hen ffynonellau Cymreig. Gerllaw roedd Ynys Metcaut (Lindisfarne).
Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw Ida, a ddaeth i'r orsedd tua 547. Unodd ŵyr Ida, Æthelfrith, deyrnas Deifr a'i deyrnas ei hun tua 604 i greu teyrnas Northumbria.
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |
Bonedd Gwŷr y Gogledd • Brynaich • Brythoniaid • Deifr • Y Gododdin • Yr Hengerdd • Llyfr Aneirin • Pictiaid • Trioedd Ynys Prydain • Ymddiddan Myrddin a Thaliesin • |