Lindisfarne
Oddi ar Wicipedia
Ynys ger arfordir Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Lindisfarne, hefyd Holy Island, hen enw Cymraeg Ynys Metcaud. Heblaw ar lanw uchel, mae modd gyrru car i'r ynys. Roedd y boblogaeth yn 162 yn 2001. Dynodwyd rhan helaeth o'r ynys yn Warchodfa Natur, a cheir amrywiaeth o adar yma.
Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir hanes gwarchae ar yr ynys. Yn y 6ed ganrif gwnaed cynghrair rhwng teyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd i ymladd yn erbyn yr Eingl. Bu Urien Rheged, Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud, Gwallawc Marchawc Trin o Elmet a Morgant Bwlch yn gwarchae ar Eingl Brynaich ar yr ynys, wedi eu gyrru o'u prifddinas Din Guardi. Fodd bynnag, roedd Morgant yn genfigennus o lwyddiant Urien, a threfnodd i Llofan Llaf Difo ei lofruddio.
Sefydlwyd abaty Lindisfarne gan sant Aidan o Iwerddon, a yrrwyd o Iona ar gais Oswald, brenin Northumbria tua 635. Yn ddiweddarch bu nawdd-sant yr ynys, Cuthbert o Lindisfarne yn abad yma.
Rywbryd tua dechrau'r 700au, cynhyrchwyd Efengylau Lindisfarne yma. Yn 793 ymosodwyd ar yr ynys gan y Llychlynwyr; ystyrir mai'r ymosodiad yma oedd dechrau oes yr ymosodiadau Llychlynnaidd ar Loegr. Bu ymosodiadau pellach, gan orfodi'r myneich i adael yr ynys.
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |