Cunedda
Oddi ar Wicipedia
Cunedda ap Edern (c.386-c.460; teyrnasai efallai yn y 440au neu'r 450au), a adnabyddir fel rheol fel Cunedda Wledig, oedd sefydlydd Teyrnas Gwynedd.
Credir fod yr enw 'Cunedda' yn dod o'r gair cyfansawdd Brythoneg cunodagos, sy'n golygu "Arglwydd da". Roedd yn fab i Edern ("Eternus" yn Lladin ac wyr i Badarn Beisrudd ("Paternus" yn Lladin) fab Tegid ("Tacitus"). Mae'r enwau yn awgrymu fod dylanwad Rhufeinig cryf ar y teulu, ac mae rhai yn tybio fod "Peisrudd" yn enw ei daid yn cyfeirio at fantell goch neu ysgarlad oedd yn cael ei gwisgo gan uchel-swyddogion yn y fyddin Rufeinig.
Yn ôl y testunau a elwir yn Achau y Saeson, a briodolir i darddiad yn y seithfed ganrif, yr oedd Cunedag yn un o hynafiaid Maelgwn Gwynedd, a dywedir ei fod wedi dod o Fanaw Gododdin yn yr Hen Ogledd gyda'i wyth mab 140 o flynyddoedd cyn teyrnasiad Maelgwn. Dywedir iddo ef a'i feibion ennill Gwynedd oddi wrth y Gwyddelod oedd wedi ymsefydlu yno.
Rhoddodd meibion Cunedda eu henwau i nifer o diriogaethau yng ngogledd a gorllewin Cymru, er enghraifft Ceredig a roddodd ei enw i deyrnas Ceredigion, Dogfael a roddodd ei enw i Ddogfeiling yn Nyffryn Clwyd, a Rhufon a roddodd ei enw i deyrnas Rhufoniog. Dywedir i Dybion, mab hynaf Cunedda, farw tra'r oedd y teulu ym Manaw Gododdin, ond rhoddodd ei fab ef, Meirion, ei enw i Feirionnydd.
[golygu] Ffynonellau
- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953) (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |